Mae ein cymdeithas yn cynnwys casgliad amrywiol o bobl gyda straeon gwahanol, bywydau gwahanol, a chredoau gwahanol.
Rydym yn rhoi lle canolog i amrywiaeth yng Ngholeg Cambria.
Rydym yn gosod ein gwahaniaethau o'r neilltu ac yn llwyddo trwy weithio gyda'n gilydd a dysgu gan y naill a’r llall, gan ein gwneud ni’n lle gwirioneddol fywiog a chyffrous i astudio a gweithio ynddo.
Ers ein sefydlu, rydym wedi bod yn ymrwymedig i egwyddorion ac arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol, i greu amgylchfyd dysgu cyfartal a chynhwysol i bawb sy'n dod trwy ein drysau.
Er bod ein breuddwydion yn gallu bod yn wahanol, mae ein nodau yr un fath; prifysgol, gyrfaoedd, neu dim ond awydd i gael gwybod rhagor.
Rydym i gyd yn awyddus i ehangu ein gorwelion mewn amgylchfyd sy'n ddiogel, yn llawn hwyl ac yn gynhwysol.
Trwy ddathlu amrywiaeth, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir, diwylliant, crefydd ac anableddau yn cael eu haddysgu mewn amgylchfyd o bosibiliadau diddiwedd.
Fel myfyrwyr a staff Coleg Cambria, byddwn yn dathlu, parchu ac yn adfyfyrio ar ein cymunedau, byddwn yn trin dysgwyr a staff yn gyfartal ac yn sicrhau hygyrchedd i bawb.
Rydym yn herio rhagfarn.
Rydym yn gwrthwynebu bwlio.
Rydym yn eich croesawu i gymeradwyo'r siarter hon a’n helpu i gyflawni'r nodau hyn.
Darllen rhagor
Coleg Cambria yn hyrwyddo Gwerthoedd Prydeinig
Mae gwerthoedd Prydeinig wrth wraidd holl addysg a gweithgareddau Coleg Cambria. Mae gan y coleg ddyletswydd gyfreithlon i sicrhau bod dysgwyr yn deall y gwerthoedd Prydeinig a osodwyd gan Strategaeth Rwystro’r Llywodraeth.
Diffinnir gwerthoedd Prydeinig fel, dysgu am:
Democratiaeth
Rheolaeth y Gyfraith
Rhyddid yr Unigolyn
Parch at ein gilydd
Goddef gwahanol grefyddau a chredoau gwahanol
Yn y coleg mae ein system fugeiliol yn ymdrin â’r holl elfennau hyn, a gall myfyrwyr fod yn rhan bwysig o’r broses ddemocrataidd, trwy raglen gynhwysfawr llais y dysgwyr sy’n annog democratiaeth ar bob lefel.
Mae'r coleg yn annog dysgwyr i gofrestru i bleidleisio a chodi ymwybyddiaeth am etholiadau, ym mhob achos mae gwerthoedd Coleg Cambria yn cynnwys 'annog a dathlu amrywiaeth' a 'pharchu eraill a'r amgylchedd'. Mae'r coleg yn 'Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth', ac mae'n hyrwyddo goddef gwahanol grefyddau a chredoau yn weithredol trwy wasanaethau'r Gaplaniaeth, y system fugeiliol, gweithgareddau'r coleg a Phwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Darllen rhagor
Ffoniwch
0300 30 30 007
Mae'r llinellau ar agor 8.30am-4pm
o ddydd Llun i ddydd Gwener