Mae gan Goleg Cambria ystafelloedd ffitrwydd ar gael i’r staff eu defnyddio am ddim ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy a Llysfasi, ynghyd ag ystafelloedd ffitrwydd preifat o'r enw ‘Lifestyle Fitness’ ar safle Glannau Dyfrdwy. Mae nifer o ystafelloedd ffitrwydd preifat eraill ger ein safleoedd ar Ffordd y Bers ac Iâl, gyda’u haelodaeth yn dechrau am ddim ond £18.99. Mae Coleg Cambria yn cynnig nifer o ostyngiadau i’w staff hefyd mewn ystafelloedd ffitrwydd yn Wrecsam, Sir y Fflint a Swydd Gaer fel rhan o'n hwb lles staff.