Daeth myfyrwyr Coleg Cambria adref gyda rhagor o fedalau na’r tro diwethaf o gystadleuaeth genedlaethol derfynol Sioe WorldSkills yn Birmingham, a rhagor nag unrhyw goleg arall ym Mhrydain.
Cystadleuaeth WorldSkills yw digwyddiad blaenllaw WorldSkills International - sefydliad gydag 67 o wledydd a rhanbarthau yn aelod ohono. Mae'r sefydliad yn cynyddu’n gyflym, gyda'r gwledydd sy’n aelodau ohono yn cynrychioli dros 70% o boblogaeth y byd.
Rydyn ni’n goleg lle mae pawb yn ymdrechu i fod yn iach ac yn heini. Ein nod yw bod pawb yn y coleg yn cael cyfle i ddod yn heini yn gorfforol, sicrhau bod dysgwyr a staff yn gallu cael rhaglenni chwaraeon a hyrwyddo iechyd a diwylliant gweithredol.
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n frwd ynglŷn â rhoi cyfleoedd i athletwyr elît gynrychioli'r Coleg ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i roi’r profiadau gorau posibl i'n myfyrwyr. Yn ein timau chwaraeon elît mae gennym ni athletwyr sy'n astudio ystod eang o bynciau ledled y coleg. Mae timau ac athletwyr unigol yn cystadlu mewn cynghreiriau AoC, digwyddiadau Colegau Cymru ac mewn cystadlaethau lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am chwaraeon elît, cysylltwch â Sally Jones (Dirprwy Gyfarwyddwr Chwaraeon): sally.jones1@cambria.ac.uk
Llais Myfyrwyr yw’r dull o ddweud eich dweud a newid beth sy’n digwydd yn eich coleg.
Mae pob dosbarth yn ethol dau Gynrychiolydd Dosbarth ym mis Medi, felly os oes gennych ddiddordeb, rhowch eich enw ymlaen trwy roi gwybod i’ch tiwtor. Yna, mae’r Cynrychiolwyr Dosbarth Etholedig yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac yn mynychu cyfarfodydd Adolygu Cynrychiolwyr i drafod materion trawsgolegol sy’n ymwneud â’r myfyrwyr.
Gall profiad gwaith gynyddu eich cyfle i gael gwaith yn y dyfodol yn sylweddol yn yr yrfa o’ch dewis. Yn ogystal â rhoi profiad o’r diwydiant i chi, mae’n eich galluogi i rwydweithio gyda chyflogwyr, magu eich hyder a rhoi blas ar fywyd gwaith i chi.
Gallwn eich helpu i feithrin y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, rhoi awgrymiadau ar ysgrifennu CV a’ch helpu chi gyda sgiliau cyfweliad.
Ydych chi’n ansicr o ba yrfa hoffech chi ei dilyn? Mae ein hadran yrfaoedd yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddiwydiannau sy’n cynyddu yn ogystal â ffeithiau am y diwydiant a rhoi syniadau i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Cafodd Career Coach ei lunio i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r yrfa iawn drwy ddarparu'r data lleol diweddaraf am gyflogau, swyddi, negeseuon am swyddi, ac addysg a hyfforddiant cysylltiedig.
Mae’r data lleol yn cynnwys ardaloedd Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Sir Gaer a Sir Amwythig.