-
Cymorth i fyfyrwyr
Anogwyr Cynnydd
Fel myfyriwr llawn amser, byddwch yn cael cymorth unigol gan Anogwyr Cynnydd o’r eiliad y byddwch yn ymuno â Choleg Cambria. Byddwch yn cael cyfarfodydd unigol a thiwtorialau grŵp a bydd eich Anogwyr Cynnydd yn monitro eich cynnydd yn fanwl ac yn eich helpu gyda’ch astudiaethau tra byddwch yn y coleg.
Bydd eich Anogwyr Cynnydd yn eich helpu i ymgartrefu yn y coleg, eich arwain drwy eich cwrs, cynnig cymorth ar adegau anodd, monitro eich cynnydd yn fanwl ac yn dathlu llwyddiannau. Darllen rhagor
Bydd eich Anogwyr Cynnydd yn eich helpu i ymgartrefu yn y coleg, eich arwain drwy eich cwrs, cynnig cymorth ar adegau anodd, monitro eich cynnydd yn fanwl ac yn dathlu llwyddiannau. Darllen rhagor
Cymorth ychwanegol
Rydyn ni’n rhoi cymorth i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu penodol a/neu anawsterau corfforol, i sicrhau eu bod i gyd yn cael cyfle i wireddu eu potensial.
Os oes gennych chi anghenion dysgu ychwanegol, bydd ein Tîm Cymorth Ychwanegol yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i wireddu eich potensial. Byddwch yn cytuno ar Gynllun Dysgu Ychwanegol, i’ch helpu i gyflawni eich nod a byddwn yn rhoi offer arbenigol priodol i chi i’ch helpu i astudio, petaech angen hynny. Byddwn yn trefnu tiwtorialau rheolaidd ac mae cymorth ar gael yn ein canolfan llawn adnoddau. Darganfyddwch Mwy Darllen rhagor

Diogelwch myfyrwyr
Mae diogelwch a lles ein myfyrwyr i gyd yng Ngholeg Cambria yn flaenoriaeth i ni a byddwn yn helpu i oresgyn unrhyw rwystrau i lwyddiant, cyflawniad a dilyniant. Rydyn ni eisiau i chi deimlo'n ddiogel, eich bod yn cael cymorth a gofal mewn amgylchfyd oedolion. Bydd ein staff yn sicrhau eich bod yn ddiogel yn y coleg, ar leoliadau gwaith a byddant yn rhoi cymorth i chi gydag anawsterau personol.
Gallwn helpu trwy roi cyngor ac arweiniad gyda gyrfaoedd a gwneud cais am le mewn prifysgol, yn ogystal â rhoi cyngor am arian, trefnu profiad gwaith neu gwnsela unigol os oes gan fyfyriwr anawsterau personol. Darllen rhagor

Diogelu
Mae’r coleg yn ymroddedig i sicrhau eich diogelwch yn y coleg a thu hwnt tra byddwch yn fyfyriwr gyda ni. Os oes angen trafod eich diogelwch arnoch, cysylltwch â’r Tîm Diogelu ar 0300 30 30 009.
Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc
Mae'r coleg yn gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu gofalwyr a gofalwyr ifanc ac mae wedi ymrwymo i wella'ch profiad a'ch cyfleoedd fel myfyriwr Coleg Cambria. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd Gofalwyr Greg.Otto@cambria.ac.uk
Plant mewn Gofal
Os ydych chi'n blentyn sy'n derbyn gofal neu os oes angen unrhyw wybodaeth a chefnogaeth arnoch chi, cysylltwch â Karen Senior ar 0300 30 30 009.
Oes gennych chi Gwestiwn?
Ffoniwch ein tîm gwasanaethau myfyrwyr ymlaen 0300 30 30 007
Cysylltwch â Ni
Cludiant am ddim*
Mae Coleg Cambria yn cynnig cludiant AM DDIM ar gyfer myfyrwyr llawn amser sy’n 16 – 18 oed.
*yn amodol ar gymhwystra Darganfyddwch Mwy
*yn amodol ar gymhwystra Darganfyddwch Mwy
Brecwast Iach AM DDIM i bob myfyriwr
Mae gan unrhyw fyfyriwr ar unrhyw safle Coleg ac ar unrhyw ddiwrnod hawl i gasglu brecwast iach AM DDIM o unrhyw un o allfeydd bwyta'r Coleg.
Darganfyddwch Mwy
Meithrinfeydd
Mae gennym 2 feithrinfa ragorol ar safleoedd Glannau Dyfrdwy ac Iâl ar gyfer plant rhwng 12 wythnos a 5 oed i'ch galluogi i barhau â'ch astudiaethau gyda chymorth gofal plant.
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol tuag at gost eich gofal plant tra'ch bod chi'n fyfyriwr yma.
Darllenwch fwy am ein cyfleusterau gofal plant rhagorol yn Cambria Cliciwch Yma Darllen rhagor

Croeso i Goleg Cambria (fideo iaith arwyddion)
Prosiect TRAC 11-24
TRAC 11-24 yw prosiect sydd yn cefnogi pobl ifanc 11-24 oed sy’n datgysylltu ac addysg a mewn perygl o ddod yn NEET (ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant).
Dysgu Rhagor
Ffoniwch
0300 30 30 007Mae'r llinellau ar agor 8.30am-4pm
o ddydd Llun i ddydd Gwener