-
Ffioedd a Chyllid
Myfyrwyr Addysg Uwch

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, efallai byddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA). Os ydych chi’n 19 oed neu’n hŷn, efallai byddwch yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth o’r Gronfa Ariannol wrth Gefn.
Os ydych chi’n byw y tu allan i Gymru gallwch ddod o hyd i wybodaeth ariannu yn:
- Lloegr - DirectGov Student Finance
- Yr Alban - SAAS
- Gogledd Iwerddon - studentfinanceni
- Mae gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ar gael yn UKCISA
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) Cymru ar gael i fyfyrwyr 16-18 oed sy’n byw yng Nghymru. Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu hawlio £30 o lwfans bob wythnos.
Cyn gwneud cais am LCA, mae’n ofynnol i chi wirio ychydig o bethau i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys:
- Dyddiad Geni - rhaid i chi fod yn 16-18 oed ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs.
- Cwrs - mae’n rhaid i chi fod yn astudio cwrs ‘cymwys’ mewn ysgol neu goleg sy’n cymryd rhan.
- Incwm y Cartref - rhaid iddo fod yn is na lefel benodol i dderbyn LCA.
- Cenedligrwydd a Phreswylio – Os ydych chi’n ddinesydd y Deyrnas Unedig sy’n byw yng Nghymru, dylech fod yn gymwys i gael LCA.
- Gwnewch gais drwy becyn sydd ar gael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu drwy lawrlwytho ffurflen gais o: Cyllid Myfyrwyr Cymru
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer myfyrwyr 19 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru ac yn astudio cyrsiau llawn amser neu ran amser sydd dros 275 awr y flwyddyn. Mae’r grant hyd at £1,500 yn amodol ar asesiad incwm. E’i nod yw annog rhagor o bobl i barhau gyda’u haddysg, lle na fyddai hynny’n bosibl hebddo.
Gwnewch gais drwy becyn sydd ar gael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu drwy lawrlwytho ffurflen gais o: Cyllid Myfyrwyr Cymru
Cronfa Ariannol wrth Gefn
Mae’r Gronfa Ariannol wrth Gefn ar gyfer myfyrwyr llawn amser a rhan amser 16 oed a hŷn, sydd efallai’n cael anhawster cwblhau eu cwrs oherwydd cyfyngiadau ariannol. Mae’r gronfa hon ar gyfer helpu gyda chostau astudio, fel gofal plant ac offer yn unig.
Mae angen i fyfyrwyr cymwys fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf eu cwrs;
- â chenedligrwydd y DU / UE / AEE a bod wedi byw’n barhaus am o leiaf 3 blynedd yn y DU / UE / AEE / y Swistir;
- â statws Ffoadur, Amddiffyn Dros Dro yr UE neu Amddiffyn Dyngarol;
- ag incwm teulu sy’n llai na £20,817 y flwyddyn.
- Gwnewch gais drwy ffurflen gais i’w chael o’r Gwasanaethau Myfyrwyr.
Myfyrwyr Addysg Uwch
Mae nifer o ffynonellau cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr Addysg Uwch. Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cynnig benthyciadau a grantiau ar gyfer astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Cambria. Mae bod yn gymwys i gael benthyciad neu grant yn dibynnu ar y math o gwrs a ble rydych chi'n byw.
Yn gryno:
Bwrsariaethau Addysg Uwch (AU)
Rydym yn cynnig bwrsariaeth £1000 i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen (er enghraifft o Lefel 3 a Mynediad i AU) i astudio un o’r cyrsiau a ganlyn yng Ngholeg Cambria:
Byddwn yn talu’r fwrsariaeth mewn dau randdaliad o £500:
Mae’n rhaid cadw at yr amodau a ganlyn er mwyn gweinyddu’r bwrsari:
Mae rhagor o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol hwn i’w cael ar wefannau Cyllid Myfyrwyr Cymru a SLC Darllen rhagor
Yn gryno:
- Mae benthyciadau Ffioedd Dysgu ar gael ar gyfer graddau sylfaen a graddau anrhydedd.
- Mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn ariannu prentisiaethau uwch.
- Efallai y byddwch chi, eich cyflogwr neu brosiectau Ewropeaidd yn talu am gyrsiau proffesiynol.
Bwrsariaethau Addysg Uwch (AU)
Rydym yn cynnig bwrsariaeth £1000 i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen (er enghraifft o Lefel 3 a Mynediad i AU) i astudio un o’r cyrsiau a ganlyn yng Ngholeg Cambria:
- FdA Astudiaethau Plentyndod
- FdA Addysg (Cymorth i Ddysgwyr)
- FdA Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig)
Byddwn yn talu’r fwrsariaeth mewn dau randdaliad o £500:
- Blwyddyn 1, ar ddiwedd Semester 2
- Blwyddyn 2, ar ddiwedd Semester 2
Mae’n rhaid cadw at yr amodau a ganlyn er mwyn gweinyddu’r bwrsari:
- Mae’r brifysgol wedi cadarnhau bod y ffioedd dysgu wedi’u talu hyd yn hyn.
- Mae gan y myfyriwr gofnod presenoldeb sy’n uwch na 90%.
- Mae gwaith y myfyriwr i gyd yn gyfoes (i’w gadarnhau gan arweinydd y rhaglen).
Mae rhagor o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol hwn i’w cael ar wefannau Cyllid Myfyrwyr Cymru a SLC Darllen rhagor
Myfyrwyr Addysg Amser
Mae myfyrwyr rhan amser sy’n astudio yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol o wahanol ffynonellau, gan gynnwys:
Mae rhagor o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol hwn i’w cael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru Darllen rhagor
- Grant Oedolion Dibynnol
- Grant Gofal Plant
- Lwfans Dysgu i Rieni
- Lwfans Myfyrwyr Anabl
Mae rhagor o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol hwn i’w cael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru Darllen rhagor
Sut i wneud cais
Myfyrwyr Rhyngwladol
Os nad ydych chi’n ddinesydd y Deyrnas Unedig, efallai byddwch dal yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Cyllid Myfyrwyr Cymru
Maer cyngor am gyllid i fyfyrwyr rhyngwladol ar gael hefyd yn UKCISA
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost yn uniongyrchol at ymgynghorwyr rhyngwladol y coleg yn: internationaloffice@cambria.ac.uk Darllen rhagor

Esbonio cyllid i fyfyrwyr - 2020 i 2021
Sut i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr - 2020 i 2021
Ffioedd Cyrsiau Rhan Amser
Mae'r ffioedd a ddangosir wrth ymyl cyrsiau rhan amser yn cynnwys hyd at y flwyddyn astudio gyntaf yn unig. Ar gyfer cyrsiau dwy neu dair blynedd, bydd yr un ffi yn daladwy unwaith eto ar ddechrau eich ail a'ch trydedd flwyddyn astudio. Bydd angen prawf arnoch chi wrth gofrestru os yw eich cwmni'n talu ffi eich cwrs.
Debyd uniongyrchol
Gallwch ein talu drwy ddebyd uniongyrchol os yw cost eich cwrs yn uwch na £200. Byddwch yn gymwys i dalu hanner y gost ymlaen llaw ac yna talu’r gweddill dros 3 mis.
Ydych chi o dan 16 oed?
Oherwydd y ffordd y mae ein cyrsiau'n cael eu cefnogi gan arian y llywodraeth, efallai y bydd yn rhaid i ni godi ffi ychwanegol ar gyrsiau i fyfyrwyr o dan 16 oed ar 1 Medi 2020. At ddibenion diogelu, bydd angen i riant neu warcheidwad fod gyda phlentyn o dan 16 oed mewn dosbarthiadau, a bydd angen iddynt dalu ffi safonol y cwrs hefyd.
Efallai bydd gostyngiadau ar gael ar rai cyrsiau Dysgu Oedolion ac yn y Gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu edrychwch ar ein Polisi Ffioedd. Darllen rhagor

Ffoniwch
0300 30 30 007Mae'r llinellau ar agor 8.30am-4pm
o ddydd Llun i ddydd Gwener