Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gynhwysiad. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn dathlu amrywiaeth.
Rydym yn croesawu pob dysgwr i ymuno â’n rhaglenni addysgu a hyfforddi amrywiol. Ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwneud cynnydd yn unol â’u nod a’u gallu. Mae’r ymagwedd gynhwysol a’r cymorth a’r addasiadau rydym yn gallu eu cynnig, yn golygu y gallwn gyflawni ystod eang o anghenion.
Mae cymorth gyda chynhwysiad ar gael ar 5 safle’r coleg i gyd, lle cynigir dull unigol.
Gallwch ddatgelu anghenion dysgu cyn dechrau cwrs neu os ydynt yn cael eu canfod yn ystod cwrs astudiaeth.
Y Tîm Cynhwysiant
Mae’r tîm cynhwysiad yn cynnwys nifer o wahanol swyddi fel:
Cydlynwyr Cymorth DysguÂ
Tiwtoriaid Arbenigol ADY
Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu
Gweithwyr Cymorth Gofal PersonolÂ
Mentoriaid ASDÂ
Mentoriaid Cynhwysiad
Cymorthyddion Cefnogaeth DdysguÂ
Gallwn helpu gyda:Â
Pontio
Hygyrchedd
Asesu a sgrinio
Trefniadau Mynediad Arholiadau
Caledwedd a meddalwedd gynorthwyol
Cymorth addysgu arbenigol
Cymorth yn y dosbarth
Lles emosiynol
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ewch i’n tudalen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar y wefan i gael rhagor o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth, fel ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'n Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.