-
Prentisiaethau
Prentisiaethau ar gael Darganfod Rhagor
Ydych chi'n chwilio am Brentis neu Brentisiaeth?
Rydym yn ddarparwr prentisiaethau allweddol yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda nifer o sectorau diwydiant ledled y rhanbarth ac ymhellach na hynny. Mae nifer y cyflogwyr sy’n dewis prentisiaethau ar gyfer eu gweithwyr presennol a newydd yn cynyddu ac mae rhagor o fusnesau’n sylweddoli manteision cefnogi datblygu sgiliau trwy raglenni prentisiaethau.
Siaradwch â’n tîm cyfeillgar heddiw i ddysgu rhagor am brentisiaethau – 0300 30 30 006
Mae Prentisiaid Sylfaen yn astudio tuag at gymwysterau sy’n gyfwerth â 5 TGAU neu NVQ Lefel 2, ac yn aml yn mynd ymlaen i gwblhau Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch.
Mae prentisiaid yn dysgu sgiliau gwerthfawr yn y gwaith, wrth astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n gyfwerth â 5 TGAU, 2 Lefel A neu NVQ lefel 3.
Ar lefel Prentisiaethau Uwch, mae unigolion yn gweithio tuag at gymhwyster sy’n gyfwerth â HND / HNC, gradd sylfaen neu radd anrhydedd. Mae Prentisiaethau Uwch ar gael ar draws ystod o sectorau o Awyrennau i Gyfrifeg, Adeiladu i Gyfryngau Creadigol
Rydym yn ddarparwr cymeradwy yn Lloegr ar gyfer Busnesau sy’n Talu’r Ardoll. Mae nifer y cyflogwyr sy’n dewis prentisiaethau ar gyfer eu gweithwyr presennol a newydd yn cynyddu ac mae rhagor o fusnesau’n sylweddoli manteision cefnogi datblygu sgiliau trwy raglenni prentisiaethau.
Siaradwch â’n tîm cyfeillgar heddiw i ddysgu rhagor am brentisiaethau – 0300 30 30 006
Mae prentisiaethau yn rhoi cyfle i chi weithio i gyflogwr, ennill cyflog a chyflawni cymhwyster wrth ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr yn y gweithle.
Manteision allweddol:
• Ennill cyflog
• Derbyn hyfforddiant
• Ennill cymwysterau cydnabyddedig
• Hyfforddiant a sgiliau yn y gwaith
• Cael gwyliau â thâl
• Mae pob prentisiaeth Lefel 2 a 3 bellach yn cael eu hariannu ar gyfer pob oedran.
Gellir ariannu prentisiaethau uwch ym mhob oedran – mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Bydd faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn y coleg yn dibynnu ar y brentisiaeth rydych chi’n ei dilyn.
Mae Prentisiaid Sylfaen yn astudio tuag at gymwysterau sy’n gyfwerth â 5 TGAU neu NVQ Lefel 2, ac yn aml yn mynd ymlaen i gwblhau Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch.
Mae prentisiaid yn dysgu sgiliau gwerthfawr yn y gwaith, wrth astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n gyfwerth â 5 TGAU, 2 Lefel A neu NVQ lefel 3.
Ar lefel Prentisiaethau Uwch, mae unigolion yn gweithio tuag at gymhwyster sy’n gyfwerth â HND / HNC, gradd sylfaen neu radd anrhydedd. Mae Prentisiaethau Uwch ar gael ar draws ystod o sectorau o Awyrennau i Gyfrifeg, Adeiladu i Gyfryngau Creadigol
Oes angen cymorth arnoch chi i fynd i'r afael â'r Ardoll Brentisiaethau? Darganfod Rhagor
Mae nifer y bobl sy'n dewis Prentisiaethau Uwch yn cynyddu ac mae mwy o fusnesau yn sylweddoli manteision cefnogi sgiliau lefel uwch.
Rhaid i chi fod: Yn 16 oed neu'n hÅ·n Wedi gweithio o leiaf 16 awr Gwaith 51% o'r amser yng Nghymru am gyfnod eich prentisiaeth Ddim mewn addysg amser llawn
Mae hyd prentisiaeth yn dibynnu ar y math o gymhwyster a'r lefel. Gall prentisiaeth gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i'w chwblhau
Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r Rhaglen Brentisiaethau, gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Byddwch yn cael eich talu yn unol â chanllawiau cyflog cenedlaethol - Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth
Mae'r ddarpariaeth yn dibynnu ar y diwydiant y mae'r brentisiaeth ynddo. Mae rhai rhaglenni'n cael eu cyflwyno yn y gweithle yn unig, mae eraill angen mynychu un o safleoedd ein coleg.
Ydyn - mae prentisiaethau yn agored i weithwyr presennol a gweithwyr newydd
Mae cyflogwyr yn hysbysebu cyfleoedd prentisiaeth ar eu cyfryngau eu hunain a / neu drwy Wasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru
Yn 16 oed neu'n hÅ·n Yn gweithio 30 awr yr wythnos o leiaf Gweithio 50% o'r amser yn Lloegr am gyfnod eich prentisiaeth Ddim mewn addysg amser llawn
Mae hyd prentisiaeth yn dibynnu ar y math o gymhwyster a'r lefel. Gall prentisiaeth gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i'w chwblhau
Byddwch yn cael eich talu yn unol â chanllawiau cyflog cenedlaethol - Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth
Rhaid i o leiaf 20% o'r dysgu fod 'ddim yn y gwaith', a chytunir ar hyn gyda'ch cyflogwr yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Ydyn - mae prentisiaethau yn agored i weithwyr presennol a gweithwyr newydd
Mae cyflogwyr yn hysbysebu cyfleoedd prentisiaeth ar eu cyfryngau eu hunain a / neu drwy'r gwasanaeth 'Find an Apprenticeship'.
Gall prentisiaethau gael eu hariannu drwy daliadau ardoll cyflogwyr, arian a fuddsoddir ar y cyd gan y cyflogwyr a'r ESFA, neu gallant gael eu hariannu’n llawn gan yr ESFA (sy’n ddibynnol ar feini prawf).