Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Arwain Tîm
Mae’n ddelfrydol i arweinwyr tîm newydd neu brofiadol sydd eisiau datblygu eu hunain fel arweinwyr a rheolwyr sy’n canolbwyntio ar sgiliau arwain, cyfathrebu, prosesau busnes a datblygiad personol.
Mae’n cynnwys:
• Diploma Lefel 2 NVQ mewn Arwain Tîm
• Sgiliau Hanfodol Lefel 1
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli
Mae’n ddelfrydol i unigolion sydd mewn swydd rheolwr rheng flaen a chanddynt ychydig o gyfrifoldebau rheoli eisoes. Mae’r cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol rheoli, ac ymchwilio i’r damcaniaethau tu ôl i reoli pobl, arweinyddiaeth a busnes.
Mae’n cynnwys:
• Diploma Lefel 3 NVQ mewn Rheoli
• Sgiliau Hanfodol Lefel 2
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Rheoli
Mae’n ddelfrydol i reolwyr sydd mewn swyddi rheolwyr canol, neu’n symud tuag hynny, a chanddynt gyfrifoldebau prosesau gweithredol ond nad ydynt yn cyflawni dyletswyddau rheolwr atebol o ddydd i ddydd.
Mae’n cynnwys:
• Diploma NVQ Lefel 4 ILM mewn Rheoli
• Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli (8 diwrnod yn y coleg)
• Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
Prentisiaeth Lefel 5 mewn Rheoli
Mae’n ddelfrydol i reolwyr canol neu uwch gyda chyfrifoldebau dros raglenni ac adnoddau sylweddol. Bydd y cymhwyster hwn yn meithrin sgiliau mewn strategaeth busnes.
Mae’n cynnwys:
• Diploma NVQ Lefel 5 ILM mewn Rheoli
• Diploma Lefel 5 OCR mewn Arwain a Rheoli (6 diwrnod yn y coleg)
• Sgiliau Hanfodol Lefel 2
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
I wneud cais am brentisiaeth, mae angen i chi gael eich cyflogi a siarad â’ch cyflogwr. Os yw eich cyflogwr yn cytuno, gallwn ddod i drafod a ydych chi’n gymwys.