Mae Prentisiaethau Digidol yn cynnig cyfle i ddysgwyr feithrin y sgiliau a datblygu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brofi cymhwysedd yn y gwaith a gwella eu rhagolygon gyrfa.
Cliciwch yma i weld hyfforddiant a chyrsiau Digidol (heblaw Prentisiaeth)
Mae pob prentisiaeth yn cynnwys y canlynol:
• Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
• Cymhwyso Rhif
• Cyfathrebu
• Llythrennedd Digidol
Mae yna hefyd opsiynau CGC ar gael ar gyfer y meysydd pwnc a restrir uchod.
Prentisiaethau Gradd Ddigidol
Mae Prentisiaeth Gradd Digidol yn cynnig ffordd hyblyg i chi astudio gradd wrth weithio. Gan gyfuno gwaith ac addysg brifysgol, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ennill cyflog wrth i chi ddysgu, mewn un o dair ffrwd flaengar.
Ariennir y cwrs hwn yn llawn. Coleg Cambria sy’n ei gyflwyno, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a fydd yn dyfarnu’r radd.
Cwrs tair blynedd yw hwn. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno 9 awr yr wythnos yn y coleg ym Mlwyddyn 1, gyda threfniant tebyg ym Mlwyddyn 2 a 3 – i’w rannu dros un diwrnod 6 awr ac un noson 2/3 awr. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yng Ngholeg Cambria ym Mlwyddyn 1 a 2 ac ym Mhrifysgol Bangor ym Mlwyddyn 3.