Mae Prentisiaethau Gofal Ceffylau yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i brofi cymhwysedd yn y gwaith ac i ddatblygu eu rhagolygon gyrfa. Maent hefyd yn gweddu dysgwyr sy'n gymwys yn eu swydd sydd eisiau ehangu eu sgiliau presennol a datblygu eu gwybodaeth greiddiol mewn meysydd arbenigol, gan gynnwys marchogaeth, bridio a hyfforddi.
Mae'r cymwysterau hefyd wedi'u cynllunio ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisoes yn gymwys mewn rhai meysydd yn y busnes ac sy'n chwilio am ffyrdd o wella eu sgiliau a'u gwybodaeth.
Rydym yn gweithio â busnesau gwahanol feintiau ledled y sector yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.