Gwella Perfformiad Gweithredol – Prentisiaeth Peirianneg Sylfaen Lefel 2
Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg a Thystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Peirianneg. Mae’r rhaglen hon ar gyfer Peirianwyr newydd, ac mae’n gwrs rhyddhau am y diwrnod dros 2 flynedd. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i osod sylfeini hyfforddiant a gwybodaeth ymarferol i unigolyn sy’n cychwyn ar yrfa Peirianneg.
Peirianneg Gweithgynhyrchu – Prentisiaeth Lefel 3
Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg gyda llwybr penodol sy’n gysylltiedig â’u rôl. Y llwybrau hyn yw: Cynnal a Chadw Peirianneg, Cymorth Technegol Peirianneg, Peirianneg Gweithgynhyrchu Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Gwneuthuro a Weldio, Offer a Rheoli. Mae gan bob un o’r llwybrau hyn ystod o unedau dewisol i weddu swyddi penodol. Cwblheir Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi ar ddechrau’r rhaglen i ddewis yr unedau gofynnol i ddiwallu anghenion y swydd unigol a gofynion y cwmni. Bydd unigolion yn gweithio mewn swydd Peirianneg benodol neu swydd gysylltiedig. Mae’r rhaglen oddeutu 24-30 mis ac mae angen cael amser o’r gwaith ar gyfer Tystysgrif Dechnegol Lefel 3 mewn Peirianneg gyda’r ddisgyblaeth briodol dros 2 flynedd.
Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch – Prentisiaeth Uwch Lefel 4
Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at NVQ Lefel 4 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg ac yn mynychu’r coleg ar sail rhyddhau am y diwrnod i fynychu naill ai HNC mewn Peirianneg Drydanol neu Fecanyddol, neu Radd Sylfaen mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch. Bydd unigolion mewn swydd uwch mewn Peirianneg ac yn gyfrifol am brosiectau gweithle mewn amgylchedd Peirianneg (rhaglen oddeutu 24 mis). Dyma lwybr dilyniant delfrydol ar gyfer unigolion sydd wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg.
Mae pob prentisiaeth yn cynnwys y canlynol:
• Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
• Cymhwyso Rhif
• Cyfathrebu
I wneud cais am brentisiaeth, mae angen i chi gael eich cyflogi a siarad â’ch cyflogwr. Os yw eich cyflogwr yn cytuno, gallwn ddod i drafod a ydych chi’n gymwys.