Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddiaeth Busnes (Lefel 2)
Bydd Prentisiaid Sylfaen yn gweithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddiaeth Busnes ac yn gyffredinol yn gweithio mewn swyddi fel gweinyddwyr, gweithwyr iau swyddfa, derbynyddion, derbynyddion meddygol, ysgrifenyddion cyfreithiol iau neu ysgrifenyddion meddygol iau.
Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes (Lefel 3)
Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Busnes ac yn gyffredinol yn gweithio mewn swyddi fel gweithwyr/swyddogion gweinyddu, arweinwyr tîm gweinyddu, cynorthwywyr neu ysgrifenyddion personol gan gynnwys ysgrifenyddion meddygol neu gyfreithiol.
Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes a Phroffesiynol (Lefel 4)
Bydd gweithwyr yn gweithio tuag at NVQ Lefel 4 mewn Busnes a Gweinyddiaeth, ac yn gyffredinol yn gweithio mewn swyddi fel rheolwyr swyddfa, arweinwyr tîm gweinyddu, cynorthwywyr personol neu weithwyr datblygu busnes.
Mae pob prentisiaeth yn cynnwys y canlynol:
• Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
• Cymhwyso Rhif
• Cyfathrebu
• Llythrennedd Digidol
I wneud cais am brentisiaeth, mae angen i chi gael eich cyflogi a siarad â’ch cyflogwr. Os yw eich cyflogwr yn cytuno, gallwn ddod i drafod a ydych chi’n gymwys.