Mae Prentisiaethau Amaethyddiaethol yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i brofi cymhwysedd yn y gwaith ac i ddatblygu eu rhagolygon gyrfa. Maent hefyd yn addas i ddysgwyr sy'n gymwys yn eu swydd, sydd eisiau ehangu eu sgiliau presennol a datblygu eu gwybodaeth sylfaenol mewn meysydd arbenigol, gan gynnwys rheoli stoc a bridio.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol fusnesau fferm ar draws y sector yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, gan gynnwys cynhyrchwyr llaeth, cig eidion a defaid, cnydau a dofednod (brwylio a dodwy), yn ogystal â safleoedd cymysg.