Dechreuwch Addysgu Myfyrwyr ôl-16 gyda chwrs TAR
Mae fframwaith y rhaglen TAR yn amlinellu dull deniadol ac arloesol tuag at addysg a hyfforddiant athrawon sy’n bodloni’r angen presennol am gymwysterau addysgu a hyfforddi achrededig yn y sector ôl-orfodol amrywiol.
Mae’r cwrs TAR yn anelu at y rhai sydd â gradd yn y pwnc neu sy’n dymuno addysgu. Mae’r cwrs hwn yn cael ei achredu trwy Brifysgol Aberystwyth ac yn arwain at Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TAR).
Mae’r cwrs PCE yn anelu at y rhai sydd â 5 mlynedd o brofiad galwedigaethol sydd heb radd ond mae ganddynt gymwysterau lefel 3 neu uwch yn eu disgyblaeth alwedigaethol. Mae’r cwrs hwn yn cael ei achredu trwy Brifysgol Aberystwyth ac yn arwain at Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TAR).
Modiwlau
Byddwch yn astudio 6 o 8 o’r modiwlau canlynol, sy’n 20 credyd yr un.
Addysgu Effeithiol ar gyfer Dysgu Effeithiol 1
Addysgu Effeithiol ar gyfer Dysgu Effeithiol 2
Dysgu a Datblygu Pwnc Arbenigol
Llythrennedd Dysgu
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Dysgu Cynhwysol
Dysgu Cymwyseddau Digidol
Dysgu Troseddwyr
Dysgu Dwyieithog
Byddwch hefyd yn ymgymryd ag Ymarfer Dysgu a Datblygiad Proffesiynol trwy leoliad addysgu un diwrnod yr wythnos, lleiafswm o 100 o oriau addysgu.