-
Datblygiad Proffesiynol
Datblygwch yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich gweithlu
Edrychwch ar ein cyrsiau datblygiad proffesiynol
Datblygiad Proffesiynol
Cambria yw un o’r darparwyr datblygiad proffesiynol mwyaf yn y rhanbarth, gyda phartneriaeth ag achredwyr adnabyddus fel ILM, AAT, CIM, CIPD, NEBOSH ac IOSH. Mae llawer o gyrsiau datblygiad proffesiynol yn cael eu haddysgu yn ein cyfleuster newydd sbon yn Llaneurgain – Ysgol Fusnes Cambria. Mae’r Ysgol Fusnes yn amgylchedd dysgu modern, rhyngweithiol wedi’i leoli mewn lleoliad trawiadol, sy’n darparu hyfforddiant datblygiad proffesiynol ar bob lefel. Mae gan ein staff ystod eang o arbenigedd a phrofiad yn y sector masnachol a chyhoeddus ac mae gennym enw da am ddarparu rhagoriaeth academaidd ar lawer o’n cyrsiau. Rydym yn cyflwyno sesiynau hyfforddi arloesol a rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i ymgysylltu’n llawn ac ysgogi gweithwyr a’u datblygu i’w llawn botensial. Cliciwch yma i weld gwefan ein Hysgol Fusnes.
Edrychwch i weld a ydych chi'n gymwys i gael arian Edrych Rŵan
Ffoniwch
0300 30 30 007Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 6pm
E-bost
Unrhyw gwestiynau? Rhowch wybod i ni:employers@cambria.ac.uk