NVQ
Mae NVQ yn gymhwyster cymhwysedd galwedigaethol fydd yn asesu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr i weithio fel technegydd labordy mewn ystod o amgylcheddau.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol sy’n ymdrin â gwybodaeth a sgiliau gan gynnwys iechyd a diogelwch, a pherthnasau gwaith.
Mae unedau dewisol yn ymdrin meysydd fel profi, samplo, rheoli stoc, paratoi adnoddau a chyfarpar, a darparu cymorth technegol.
Nid oes unrhyw ragofynion i gyflawni’r cymwysterau hyn ar wahân i brofiad a hyfforddiant yn y gweithle.
Tystysgrif mewn Sgiliau Technegol Labordy
Unedau Gorfodol:
• Iechyd, Diogelwch ac Arferion Amgylcheddol labordy (4 credyd) Amser dysgu dan arweiniad – 27 awr
• Rheoli Gweithrediadau mewn Labordy (3 credyd) Amser dysgu dan arweiniad – 21 awr
• Gweithdrefnau Uwch Labordy (8 credyd) Amser dysgu dan arweiniad– 60 awr
2 Uned Ddewisol:
• Technegau Labordy Biolegol a Biogemegol (5 credyd) Amser dysgu dan arweiniad – 42 awr
• Technegau labordy cemegol (5 credyd) Amser dysgu dan arweiniad – 42 awr
Asesu
- Ymarferion ysgrifenedig ac ymarferol
- Arholiad 2.5 awr
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno un diwrnod yr wythnos dros 35 wythnos mewn labordy modern, pwrpasol ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria sy’n llawn offer i ddiwallu anghenion dysgwyr ar y cwrs hwn. Bydd cyflwyno’r cynnwys gwyddonol yn seiliedig ar weithgareddau ymarferol a fydd yn datblygu dealltwriaeth dysgwyr o wybodaeth berthnasol a’i chymhwyso.