main logo

CYLLID I GYFLOGWYR A GWEITHWYR

An apprentice in a workshop carefully working on a circuit
Datblygwch eich gweithlu gyda rhaglenni Prentisiaeth wedi'u hariannu'n llawn.

Ydych chi am wella sgiliau eich gweithlu presennol? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi elwa o newidiadau diweddar yng nghyllid Llywodraeth Cymru? Fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu Cymru ‘Llewyrchus a Diogel’, gall gweithwyr o unrhyw oedran a hyd gwasanaeth elwa ar y rhaglen Brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn.

Os ydych chi eisiau ehangu eich busnes, datblygu gweithlu medrus, lleihau costau hyfforddi a recriwtio, heddiw ydy’r amser gorau.

Cysylltwch â thîm Cambria ar gyfer Busnes am ragor o wybodaeth ar 0300 30 30 006.

Taliad cymell prentisiaid ar gyfer cyflogi pobl anabl

I helpu busnesau i recriwtio prentis sy’n anabl, mae Llywodraeth Cymru sy’n cynnig taliadau cymhelliant tan 31 Mawrth 2024. 

Dyma fanylion y taliadau cymhelliant:

  • Bydd cyflogwyr sy’n recriwtio prentis anable o 1 Ebrill 2022 neu’n ddiweddarach yn gymwys i gael taliad cymhelliant o £2,000 fesul dysgwr
  • Cyfyngir taliadau i 10 dysgwr anabl fesul busnes
  • Mae taliadau cymhelliant yn berthnasol i brentisiaethau a ddarperir ar lefelau 2 i 5 yn unig ac nid ydynt yn berthnasol i brentisiaethau gradd.

Ni allwch wneud cais os: 

  • Ydych chi’n recriwtio ar gontract dim oriau 
  • Ydych chi’n defnyddio model prentisiaeth a rennir
  • Nodir bod gan ddysgwr anabledd ar ôl iddo gael ei recriwtio.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch dîm Cambria ar gyfer Busnes ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk.

Bwriadu cyflogi Prentis?

Cadarnhau Cymhwysedd

Cysylltwch â Cambria ar gyfer Busnes trwy anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 006 i gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau cymhwysedd.

Partneriaid
Apprenticeships logo

Prentisiaethau

.

welsh government government with red background

Llywodraeth Cymru

.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost