- Beth fyddwch chi’n ei astudio
- Ble fyddwch chi’n astudio?
- Am Bryn
- Cysylltu

Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae’r academi’n cynnwys rhaglen sy’n gyfuniad o addysg a phrofiad gwaith o safon uchel a fydd yn darparu llwybrau i chi at gyflogaeth. Mae rhaglen yr academi’n cynnwys:- Rhaglen astudio lawn amser sy’n cynnwys Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol yn ogystal â rhaglen i feithrin sgiliau Saesneg a Mathemateg ymhellach
- Dosbarthiadau meistr gan Bryn Williams a’i dîm o gogyddion arbenigol
- Profiad gwaith o safon uchel
- Gwisg yr academi

Ble fyddwch chi’n astudio?
Byddwch yn astudio ym mwyty Y Celstryn yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy.Byddwch yn cwblhau lleoliadau gwaith ym mwyty Bryn, Bryn Williams at Porth Eirias.

Am Bryn
Yn wreiddiol o Ddinbych yng Ngogledd Cymru, mae Bryn Williams wedi dysgu gwerthfawrogi bwyd a’i darddiad o oedran ifanc.Mae wedi gweithio mewn rhai o geginau mwyaf clodfawr Llundain. Mae wedi gweithio dan oruchwyliaeth Marco Pierre White yn The Criterion, Michel Roux yn Le Gavroche am dair blynedd ac roedd yn senior-sous yn The Orrery am bedair blynedd.
Bryn sydd bellach yn berchen ar Odette's, ar ôl iddo brynu’r adeilad ym mis Hydref 2008. Mae Bryn hefyd yn rhedeg Porth Eirias; sef bwyty, caffi a bar ar lan y môr ar arfordir Gogledd Cymru. Mae Bryn wedi agor Somerset House, yn The Strand, Llundain hefyd.

Cysylltu
Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am yr academi?Ffoniwch 0300 30 30 001 neu anfonwch e-bost at Ycelstryn@cambria.ac.uk

Dysgu gan y Gorau
Mae Coleg Cambria a’r chef clodwiw Bryn Williams wedi lansio Academi Bryn Williams i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf o gogyddion a staff lletygarwch o Ogledd Ddwyrain Cymru. Dyma’r academi gyntaf i Bryn, i Goleg Cambria ac i Gymru. Byddwch yn elwa o ddosbarthiadau meistr gan Bryn Williams a’i dîm o gogyddion arbenigol, a fydd yn eu cynnal ym mwyty Y Celstryn yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy yn ogystal ag ym mwyty Bryn, Bryn Williams at Porth Eirias. Bydd hyn yn eich galluogi i roi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ar waith a’u meithrin ymhellach mewn gweithle.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd cyfleoedd i chi symud ymlaen i gwrs lefel uwch neu gyflogaeth. Bydd tîm yr academi yn cadw mewn cysylltiad â chi trwy gydol eich gyrfa i gynnig cyngor ac arweiniad.
Dyma’r lle i chi os oes gennych angerdd am arlwyo neu waith blaen tŷ, a’r brwdfrydedd a’r uchelgais i fod y gorau.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, a bydd pob ymgeisydd am le yn yr academi yn mynd drwy broses dethol.
Roedd y cogydd Bryn Williams ar Saturday Kitchen yn ddiweddar yn siarad am yr Academi