Bydd myfyrwyr o Chweched Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam yn dechrau bywyd yn nau o brifysgolion gorau’r byd ym mis Medi.

Bydd myfyrwyr o Chweched Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam yn dechrau bywyd yn nau o brifysgolion gorau’r byd ym mis Medi. Mae Megan Kocker, Cadence Thompson, a Joe Williams wedi cael cynnig lleoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt ar ôl cyflawni canlyniadau Safon Uwch rhagorol. Cafodd Megan A*s mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Mathemateg, Cymraeg Ail Iaith […]
Mae dysgwr ysbrydoledig sy’n brwydro Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) wedi cael lle i astudio yn ei “phrifysgol ddelfrydol”.

Bydd Faith Dodd yn dechrau ei gradd mewn Archaeoleg Glasurol a Gwareiddiad Clasurol yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) o fis Medi. Mae Faith sy’n 19 oed, o Wrecsam, wedi cwblhau cymwysterau mewn Drama, y Cyfryngau, Gwareiddiad Clasurol a Bioleg yng Ngholeg Cambria Iâl. Cafodd ei henwi’n Ohebydd Ifanc y Flwyddyn 2021 BBC Cymru ar ôl […]
Bydd breuddwyd myfyriwr a chafodd ei hysbrydoli yn dilyn marwolaeth drasig ei thad annwyl yn cael ei wireddu dros yr wythnosau nesaf.

Bydd Amber-Leigh Walker yn mynd i Ysgol Filfeddygol Harper a Keele o fis Medi ar ôl llwyddo Rhagoriaeth* mewn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid yng Ngholeg Cambria Llysfasi, ger Rhuthun. “Dwi mor hapus a cyffrous i fynd i Harper a Keele,” meddai’r cyn-ddisgybl Ysgol Bryn Elian sy’n byw yn Hen Golwyn gyda’i mam […]
Mae Prifysgol Caergrawnt yn galw ar fyfyriwr dawnus sy’n dathlu canlyniadau Safon Uwch llwyddiannus.

Bydd Carys Jones yn dechrau gradd yn y Gyfraith yn y sefydliad adnabyddus fis Medi eleni. Ar ôl dilyn cyrsiau Safon Uwch yn y Gyfraith, Mathemateg a Ffrangeg yng Nghanolfan Chweched Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria, mae’r unigolyn 18 oed wrth ei bodd ei bod wedi cael ei derbyn i Goleg Clare clodfawr y Brifysgol. “Dwi […]