
Cafodd y gwresogyddion gardd unigryw o fetel dalen amrwd, eu llunio yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy, gan garfan o 75 o brentisiaid o ffatri gwneud adenydd Airbus ym Mrychdyn.
Goruchwyliodd y darlithydd Tony Commins a chydweithwyr iddo gynnydd y dysgwyr wrth iddynt ddefnyddio nifer o dechnegau a phrosesau amrywiol i greu amrediad o stofiau ar thema ffugwyddonol, gan gynnwys Imperial TIE (Injan Dau Ïon) a ymddangosodd yn y ffilmiau Star Wars.
Dywedodd Tony, “Roedd yn wych eu bod nhw wedi cael dysgu sgiliau newydd, o dorri a siapio gyda pheiriannau plasma i weldio a dylunio.”
“Ar ôl dim ond 42 awr fe aethant o fod yn ddechreuwyr llwyr i fod yn gallu defnyddio’r technegau hyn yn fedrus ac maen nhw i gyd wedi cynhyrchu rhywbeth i fynd adref gyda nhw.

“Mae’r stofiau yn sylfaenol yn debyg i stofiau gardd neu wresogyddion patio. Felly dw i’n siŵr y byddan nhw’n cael croeso wrth i nosweithiau oer y gaeaf dynnu i mewn.”
Dywedodd Tony, sy’n ddilynwr brwd y fasnachfraint ffilm boblogaidd, bod y tîm ar safle Cei Connah bob amser yn ceisio rhoi elfen o hwyl i’r dysgu.
Dywedodd hefyd “Bydd y sgiliau maen nhw wedi’u dysgu yn ychwanegu dimensiwn arall at y wybodaeth a’r profiad roedd ganddyn nhw eisoes, ac roedd yn ymddangos bod y grwpiau yn mwynhau’r dasg yn arw.”
“Yn ystod y blynyddoedd rydyn ni wedi cynhyrchu llawer o greadigaethau gwych a rhyfeddol ar gyfer yr awyr agored, o Darth Vader i byllau tân y ddraig, ac fel cefnogwyr ffilmiau ffugwyddonol does dim pall ar ein syniadau!
“Gwnaeth bob un o’r prentisiaid waith rhagorol; roedd yn wych eu cael nhw gyda ni ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am Beirianneg a phrentisiaethau yng Ngholeg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk
yn ôl