-
Gwnewch Gais
Mae 4 ffordd hawdd i wneud cais:
Ar-lein
Penderfynwch pa gwrs rydych chi am ei astudio a chliciwch ar y botwm gwneud cais ar waelod tudalen y cwrs.Bydd hyn yn mynd â chi at ffurflen gais ar –lein y bydd angen i chi ei llenwi.
Trwy’r Post
Lawrlwythwch y ffurflen gais, ei hargraffu ac yna’i phostio i’r cyfeiriadau a ganlyn:Derbyniadau Coleg Cambria, Ffordd Celstryn, Cei Conna, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 4BR.
Ffoniwch
Ffoniwch 0300 30 30 007 i siarad â’n tîm a fydd yn eich helpu i lenwi eich ffurflen gais.Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?
Pan fyddwn wedi prosesu'ch cais, byddwn yn anfon e-bost atoch chi sy'n cynnwys arweiniad o'r hyn y bydd angen i chi ei wneud i gwblhau Cam 2 eich cais.
Beth yw Cam 2?
Mae Cam 2 y broses gwneud cais wedi'i chyflwyno i arbed ymgeiswyr rhag gorfod mynychu cyfweliad ar safle Coleg. Mae'n syml iawn ac mae'r cyfan yn cael ei wneud ar-lein.
PWYSIG IAWN - Cadwch eich manylion yn gyfredol.
Cofiwch gysylltu â ni i roi gwybod i ni os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad, eich rhif ffôn neu'ch cyfeiriad e-bost fel arall ni fyddwn yn gallu cadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn â'ch cais. Anfonwch e-bost atom ni ar admissions@cambria.ac.uk neu ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 0300 30 30 007.
Ar-lein
Penderfynwch pa gwrs rydych chi am ei astudio a chliciwch ar y botwm cofrestru ar dudalen y cwrs. Bydd hyn yn mynd â chi i ffurflen gofrestru ar-lein y mae angen i chi ei llenwi a byddwch wedi'ch cofrestru ar y cwrs ar unwaith.Mae rhai cyrsiau'n gofyn am lefel astudio gychwynnol felly efallai y gofynnir i chi gysylltu ag aelod o'n tîm gwasanaethau myfyrwyr i gael cyngor ar eich cam nesaf.
Ffoniwch ein Tîm LIFS ar 0300 30 30 007 i gofrestru ar gwrs rhan amser dros y ffôn.
Ffoniwch
Mae yna rai cyrsiau rydyn ni'n eu cynnig sy'n gofyn i chi gwblhau gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau lle mae cyswllt rheolaidd, heb oruchwyliaeth gyda phlant neu oedolion agored i niwed.
Os oes gennych gofnod troseddol ni fyddwch o reidrwydd yn cael eich atal rhag ennill lle ar y cwrs. Bydd yn dibynnu ar natur a chefndir unrhyw drosedd.
Efallai yr hoffech siarad â Chynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr ynghylch a fyddai eich cofnod troseddol yn cyfyngu ar eich opsiynau gyrfa. Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch. Ymdrinnir â phob trafodaeth yn gwbl gyfrinachol. Darllen rhagor
Os oes gennych gofnod troseddol ni fyddwch o reidrwydd yn cael eich atal rhag ennill lle ar y cwrs. Bydd yn dibynnu ar natur a chefndir unrhyw drosedd.
Efallai yr hoffech siarad â Chynghorydd Gwasanaethau Myfyrwyr ynghylch a fyddai eich cofnod troseddol yn cyfyngu ar eich opsiynau gyrfa. Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch. Ymdrinnir â phob trafodaeth yn gwbl gyfrinachol. Darllen rhagor
Ffoniwch
0300 30 30 007Mae'r llinellau ar agor 8.30am-4pm
o ddydd Llun i ddydd Gwener