
Nodwyd blwyddyn ragorol i Goleg Cambria trwy agor adeiladau technoleg peirianneg newydd a safle a gafodd ei ailddatblygu, gwerth £10miliwn.
Yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol heddiw (dydd Gwener), roedd y coleg yn dathlu 12 mis nodedig a oedd yn cynnwys ei ganlyniadau Safon Uwch gorau erioed, cyfradd bodlonrwydd 90% a chyflwyno rhaglenni addysg uwch a phrentisiaethau.
Cyfrannodd Coleg Cambria at economi gogledd ddwyrain Cymru gyda throsiant blynyddol o £60miliwn ac roedd dros 90% o rieni yn fodlon ym mhob categori o’n harolwg rhieni.
Dywedodd David Jones, ein prif weithredwr, a enillodd wobr Arweinydd Addysg Bellach y Flwyddyn yng ngwobrau diweddaraf TES, bod diwydrwydd a phenderfyniad pawb yn y sefydliad wedi arwain at y canlyniadau rhagorol hyn.
Wrth agor y cyfleuster newydd ar Ffordd y Bers, Wrecsam, dywedodd:
“Rydyn ni wedi cyflawni cymaint gyda’n gilydd fel ei bod hi bron yn amhosibl dewis un uchafbwynt.
“Rydyn ni wedi agor ysgol fusnes gwerth £ 3.5 miliwn ar ein safle yn Llaneurgain; wedi cael canlyniadau anhygoel yn rowndiau terfynol WorldSkills yn Abu Dhabi ac rydyn ni’n cyflawni yn unol â holl dargedau ein cynllun strategol, sy’n ein harwain at 2020.
“Heddiw, rydyn ni’n dathlu carreg filltir arall, wrth i ni lansio’r cyfleuster ardderchog yma i ddarparu cyrsiau lefel addysg bellach ac addysg uwch o’r radd flaenaf ar gyfer peirianneg, adeiladu, gwyddoniaeth a thechnoleg ehangach, a hynny mewn partneriaeth gyda busnesau sydd yn y maes hwn ac mewn meysydd eraill.”
Lesley Griffiths, Yr Aelod Cynulliad dros Wrecsam a gafodd yr anrhydedd o agor y cyfleuster newydd yn swyddogol.
Dywedodd: “Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd Coleg Cambria yn safle Bersham Road wedi creu amgylchedd dysgu newydd ardderchog sydd heb ei ail yn y wlad.
“Ychydig dan ddwy flynedd yn ôl, fe wnes i ymweld â Ffordd y Bers i weld y cynlluniau ar gyfer y datblygiad newydd. Rŵan, ar ôl cwblhau’r gwaith, rwy’n siŵr y bydd y cyfleusterau modern o’r radd flaenaf hyn, yn rhoi rhagor o gyfleoedd i gannoedd o bobl ifanc Wrecsam a’r ardal gyfagos.”
Dywedodd Mr Jones fod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i adfyfyrio ar lwyddiannau’r coleg wrth edrych ymlaen at flwyddyn bwysig i’r coleg. “Er mor falch rydyn ni, mae angen i ni nawr edrych ymlaen, addasu a thyfu.”
“Rydyn ni’n byw mewn cyfnod o gryn newid, gyda llawer o gyfleoedd, ond gyda heriau sylweddol hefyd a hynny trwy ogledd ddwyrain Cymru i gyd, a’r rhanbarth economaidd-gymdeithasol draws-ffiniol ehangach rydyn ni’n ei wasanaethu.
“Yn ystod y flwyddyn rydyn ni wedi parhau i weithio wrth wraidd y gymuned, gan feithrin dyheadau a sgiliau ac anelu at gyfrannu’n sylweddol at dwf economaidd.
“Bydd hynny’n parhau wrth i ni nodi pum mlynedd anhygoel fel sefydliad yr haf hwn, ac wrth i ni ddatgelu rhagor o gynlluniau.”
Ymhlith y rhain fydd gwaith adnewyddu safle Iâl yn Wrecsam, sy’n werth miliynau o bunnau ac ymgartrefu yng nghanolfan newydd Ffordd y Bers, gyda’i hystafell gynadledda, neuadd weithgynhyrchu, ystafelloedd CAD a labordai electronig a pheirianneg.
Ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, mae Mr Jones yn falch o weld enw da a phroffil Coleg Cambria yn cynyddu ac yn cyd-fynd â’i effaith a chydweithrediad â phartneriaid allweddol yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd “Llwyddon ni i ddod yn sefydliad hyfforddi a gafodd ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau. Mae hyn yn ein galluogi ni i gyflwyno prentisiaethau i ddysgwyr sy’n byw yn Lloegr yn ogystal â chynorthwyo gyda phrosiectau arloesol fel Cais Twf ar gyfer Gogledd Cymru a Thrawsffiniol.”
“Roedden ni hefyd yn hynod falch o gael cymryd rhan flaenllaw mewn datblygu gweithlu dwyieithog yng ngogledd ddwyrain Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg a chyflenwyr gwasanaethau.”
Dywedodd Mr Jones hefyd: “Ond ein prif flaenoriaeth yw parhau i ddarparu addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn estyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio ac i gyflawni eu potensial llawn.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig y gwasanaethau gorau posibl ym mhopeth a wnawn – gwella lefelau sgiliau hyd yn oed yn fwy effeithiol, gan ddiwallu anghenion cyflogwyr, a datblygu ein cynnig i sicrhau ei fod yn briodol a’i fod yn bodloni’r gofynion am sgiliau lefel uwch fwyfwy.
“Diolch i’n holl fyfyrwyr, staff, llywodraethwyr a phartneriaid am eu gwaith caled, eu hysbrydoliaeth, eu harloesedd a’u llwyddiannau.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Technoleg Peirianneg newydd ac am y datblygiadau diweddaraf yng Ngholeg Cambria, ewch i’n gwefan: www.cambria.ac.uk
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |