Mynychodd Sam Jones o Wrecsam, Goleg Cambria Iâl o 2004 - 2006 ac astudiodd BTEC Lefel 3 mewn
Celfyddydau Perfformio.
Ers iddi adael y coleg cafodd Sam lawer o brofiadau gwych, gan gynnwys gweithio fel Cynorthwyydd
Darlledu a Rheolwr Cynnwys yn Marcher Sound (Heart FM, bellach).
Teithiodd o amgylch Sbaen yn gweithio fel actores ar deithiau theatr cyn cwblhau gradd mewn Perfformio
Cerddoriaeth a Chynhyrchu yng Nghanolfan Gerddoriaeth Gyfoes Llundain.
Mae hi bellach yn byw yn Llundain ac ar hyn o bryd mae hi’n aelod o’r New Entrepreneurs Foundation
ac yn gweithio fel Pennaeth Marchnata ar fusnes newydd o'r enw Inkpact.
Mae Sam yn gefnogwr brwd o entrepreneuriaeth ac mae ganddi flog ar-lein lle mae hi'n sgwrsio gyda phobl greadigol am sut daethant i wneud bywoliaeth yn gwneud yr hyn maent yn ei hoffi.
Mae hi hefyd yn curadu guthealthempire.com blog-gylchgrawn ar gyfer y rhai ar y deiet FODMAP isel. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Sam yma - samanthajones.tv a facebook.com/theesamjones
Astudiodd Molly Whelan, 29 oed o Wrecsam, Safon Uwch mewn Busnes, Seicoleg a Saesneg Iaith a Llenyddiaeth.
Ar ôl gadael y coleg aeth Molly i astudio Busnes ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.
Mae Molly bellach yn gweithio yn Ysbyty Countess of Chester fel Hwylusydd Dysgu Cynorthwyol.
Ochr yn ochr gyda'i swydd llawn amser mae Molly hefyd yn rhedeg busnes gemwaith, 'Bee boho' gyda'i ffrind
a'r cyn-fyfyriwr Sophie.
Ar hyn o bryd mae'r busnes yn gwneud yn dda iawn ac maent yn gobeithio datblygu'r busnes
ymhellach yn y dyfodol.
Cymerwch gip ar eu cynnyrch hyfryd yn - https://www.beeboho.co.uk/