
Mae cwmni peirianyddol blaenllaw o’r gogledd sy’n dylunio ac yn cynhyrchu ar gyfer y diwydiant awyrofod yn gobeithio parhau â’i flwyddyn lwyddiannus trwy ennill gwobr arall am fuddsoddi mewn hyfforddiant.
Mae Electroimpact UK Ltd, o Benarlâg, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru.
Enillodd y cwmni wobr Hyfforddwr y Flwyddyn a Chyflogwr y Flwyddyn yng ngwobrau VQ Cymru yn yr haf ac fe gaiff wybod a fu’n llwyddiannus unwaith eto yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.
Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu, sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Cafodd y gwobrau eu llunio i arddangos ac i ddathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Mae cael llif bychan ond cyson o brentisiaid wedi helpu Electroimpact UK Ltd wedi i ddatblygu’n llwyddiannus. Yn ystod y y pedair blynedd ddiwethaf, mae’r cwmni wedi creu rhaglen brentisiaethau sy’n canolbwyntio ar ei adran beiriannau er mwyn meithrin doniau newydd a’u helpu i gyrraedd ei safonau uchel.
Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni 5 prentis ymysg ei 140 o weithwyr. Mae prentisiaid y cwmni wedi cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau o fri ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys WorldSkills 2017 yn Abu Dhabi.
Dywedodd Matthew Booth, Arweinydd Gweithgynhyrchu gyda Electroimpact yn y DU: “O’r munud y mae prentisiaid yn dechrau gweithio gyda ni, rydyn ni’n creu cynllun dysgu clir a thargedau pendant mewn cydweithrediad â Choleg Cambria.
“Trwy ein mentora unigol, rydyn ni’n sicrhau bod prentisiaid yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i i gyrraedd y targedau hynny a’u bod yn gallu datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau i’r safon a y mae’r cwmni a’n a’n cwsmeriaid yn eu disgwyl.”
Mae’r cwmni’n cynnig tri fframwaith prentisiaethau, gan gynnwys Prentisiaeth Uwch a Phrentisaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg a chyflwynwyd Crefft Feistr eleni hefyd.
Mae’r cwmni’n cydweithio’n agos â’r darparwr dysgu, Coleg Cambria, i ddewis prentisiaid ac i gyflwyno hyfforddiant cadarn a thrwyadl.
Dywedodd Matthew hefyd: “O ganlyniad i’n rhaglen ni, mae ein gallu i weithgynhyrchu wedi cynyddu, ac rydyn ni’n cynhyrchu peirianwyr gyda’r gorau yn y byd, sydd â’r sgiliau i helpu’r busnes i gynyddu rhagor.”
Dywedodd Vicky Barwis o Coleg Cambria: “Mae Electroimpact yn batrwm ar gyfer busnesau bach sy’n cefnogi prentisiaid.”
Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Electroimpact ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.
“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.
“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Rwy’n dymuno’r gorau i bawb ar y noson.”
Capsiwn llun:
Arweinydd gweithgynhyrchu Electroimpact UK, Matthew Booth, gyda Vicky Barwis o Coleg Cambria a rhai o brentisiaid y cwmni.
