main logo

Hygyrchedd

Mae Coleg Cambria yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwefan sy’n hygyrch i bob grŵp defnyddwyr, gan gynnwys pobl anabl.

Rydym wedi gweithredu’r nodweddion hygyrchedd canlynol ar y wefan hon i’w gwneud yn haws i’w defnyddio ar gyfer pobl ag anableddau. Mae cydymffurfio â safonau yn amlinellu’r modd yr ydym yn mesur hygyrchedd ein gwefan. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon, neu os ydych yn cael unrhyw anhawster i’w defnyddio.

Recite Me

Gall ymwelwyr â’n gwefan wrando ar y cynnwys drwy ddefnyddio Recite Me. Mae Recite Me yn darllen cynnwys y wefan yn uchel mewn llais o ansawdd uchel sy’n swnio fel llais dynol. Mae pob gair yn cael ei aroleuo wrth iddo gael ei ddarllen yn uchel, a’r frawddeg yn cael ei haroleuo mewn lliw cyferbyniol. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i nodi’n rhwydd pa destun sy’n cael ei ddarllen yn uchel, a gwe-lywio o fewn a rhwng tudalennau gwe.

  • pobl gyda sgiliau darllen a llythrennedd isel
  • pobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
  • pobl gyda dyslecsia
  • pobl gyda nam ysgafn ar y golwg
Cymorth i ddefnyddio’r bar offer

I gael dogfennau cymorth ar sut i ddefnyddio’r bar offer, ewch i’r dudalen Canllaw Defnyddwyr Recite Me neu ewch i’r ddolen ganlynol: https://reciteme.com/product/assistive-toolbar

Llwybrau byr gwe-lywio

Bydd defnyddwyr â nam ar eu golwg sy’n defnyddio’r bysellfwrdd i we-lywio yn sylwi bod y gorchymyn tabiau wedi’i optimeiddio ar gyfer defnyddioldeb uwch.

Delweddau

Mae’r holl ddelweddau cynnwys a ddefnyddir ar y wefan hon yn cynnwys priodoleddau alt disgrifiadol. Mae graffeg addurniadol yn unig yn cynnwys priodoleddau alt gwag.

Maint y ffont

Sut i newid maint y ffont yn eich porwr:

  • Yn Internet Explorer: dewiswch y botwm ‘Page’, dewiswch ‘Text size’, yna dewiswch y maint yr ydych chi eisiau.
  • Yn Google Chrome: dewiswch y ddewislen Chrome ar far offer y porwr, dewiswch ‘Settings’. Dewiswch ‘Show advanced settings’. Yn yr adran ‘Web Content’, defnyddiwch y gwymplen ‘Font size’ i wneud addasiadau.
  • Yn Mozilla Firefox: ewch i ‘Tools’, yna ‘Options’, yna ‘Content’ ac yn olaf ‘Fonts and Colors’. Gallwch newid i’r maint sydd ei angen arnoch yma.
Tablau

Mae gan bob tabl gelloedd pennawd wedi’u cwmpasu’n gywir, er mwyn galluogi darllenwyr y sgrin eu trosi mewn modd deallus. Lle bo angen, mae gan dablau bennawd a chrynodeb hefyd.

Ffurflenni

Mae pob ffurflen yn dilyn dilyniant tab rhesymegol.

Cydymffurfio â safonau
  • Mae’r tudalennau ar ein gwefan yn cydymffurfio o leiaf â chydymffurfiaeth lefel A fel y nodir gan Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We ac a gymeradwywyd gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB). Mae’r rhan fwyaf o dudalennau ar ein gwefan yn bodloni gofynion lefel AA ac AAA.
  • Mae pob tudalen yn dilysu fel XHTML 1 Transitional ac yn defnyddio arwyddnodi semantig strwythuredig. Mae’r CSS yn dilysu hefyd.
  • Rydym yn ymdrechu i ufuddhau i ysbryd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) 1995 (www.gov.uk/browse/disabilities) o ran darparu gwasanaethau ar-lein, fel sy’n ofynnol gan y Comisiwn Hawliau Anabledd (DRC) (www.equalityhumanrights.com).
Cwestiynau neu adborth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon, neu os ydych yn cael unrhyw anhawster i’w defnyddio, anfonwch e-bost at: marchnata@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007 est 4081.