-
Gwybodaeth am Goleg Cambria
Trosolwg
Fel un o'r colegau mwyaf yn y DU, mae gan y coleg oddeutu 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan-amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol. Ar draws ei 7 safle (gan gynnwys un yng nghyfleuster gweithgynhyrchu Airbus, ac un yn CEM Berwyn yn Wrecsam) mae Coleg Cambria yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser, gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae'r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda dros 1,000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i ddarparu cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth. Darllen rhagor
Gweledgaaeth
Ein gweledigaeth ysbrydoledig ar gyfer y dyfodol...
“Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.”
“Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.”
Gwerthoedd
Lluniwyd ein cyfres o gyd-ddaliadau drwy ymgynghori â staff o bob un o safleoedd y Coleg.
Rydym yn cydweithio i sefydlu sut yr hoffem gael ein trin ac rydym eisiau gwerthoedd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant y coleg.
Rydym yn cydweithio i sefydlu sut yr hoffem gael ein trin ac rydym eisiau gwerthoedd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant y coleg.
- Dangos gonestrwydd ac uniondeb - Cyfathrebu tryloyw, agored a gonest sy’n darparu eglurder, yn creu ymddiriedaeth a chydberthnasau gwaith cadarnhaol, gan gydnabod bod gan bawb lais cyfartal.
- Cael ein parchu a’n gwerthfawrogi - Mae pawb yn cyfrif. Mae ein cyfraniadau a’n hymdrechion yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi.
- Bod yn garedig a chefnogol - Bod yn ystyrlon o eraill, yn agos-atoch ac yn barod i rannu arferion gorau a chefnogaeth. Bod yn rym cadarnhaol, sy’n creu diwylliant o ymgysylltu.
- Gweithio gydag eraill - Creu dull cydweithredol o ddatrys problemau a gwella drwy rannu arfer da. Cefnogi’r naill a’r llall i lwyddo a sicrhau datblygiad cadarnhaol i’r Coleg a’i bartneriaid.
- Teimlo’n gydradd a chynhwysol - Gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi drwy greu ymdeimlad o berthyn, datblygu cyfleoedd i bawb a hyrwyddo a gwerthfawrogi amrywiaeth.
- Bod yn gymuned - Adeiladu pontydd fel ein bod yn cysylltu o fewn a gyda’n cymunedau lleol i gydweithio ar ein buddiannau cyffredin. Cyfrannu’n weithredol at gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y cymunedau hynny.
- Bod yn rhagorol ac yn ysbrydoledig - Arddangos a datblygu gwybodaeth a sgiliau ein pobl er mwyn ysbrydoli eraill ac ymdrechu am ragoriaeth.
- Annog ac ysgogi datblygiad - Cefnogi pobl i wireddu eu potensial drwy chwalu rhwystrau a chreu cyfleoedd.
- Bod yn angerddol - Gofalu’n ddwfn am ein gwaith a chael ein sbarduno gan ein cenhadaeth i wthio’r terfynau a llwyddo, gan ysbrydoli’r un peth mewn eraill.
- Bod yn arloesol - Creu cyfleoedd a gwella ffyrdd o weithio drwy harneisio creadigrwydd pobl. Arloesi a mabwysiadu datrysiadau a syniadau newydd yn ddi-ofn. Croesawu newidiadau i wneud pethau’n well mewn byd sy’n newid.
Croeso i Goleg Cambria (fideo iaith arwyddion)
Ffoniwch
0300 30 30 007Mae'r llinellau ar agor 8.30am-4pm
o ddydd Llun i ddydd Gwener