main logo

Llywodraethwyr

Mae gan ein tîm o lywodraethwyr ystod anhygoel o brofiad, gwybodaeth a sgiliau sy’n hynod o fuddiol i Goleg Cambria a phawb sy’n ymwneud â’r Coleg. Maent yn gyfrifol am solfedd ariannol y coleg, rheoli effeithiol a safonau’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu.

Maent yn gyfrifol am ddefnyddio arian cyhoeddus a ymddiriedir iddynt yn gywir. Mae aelodau o’r corff llywodraethu yn rhan annatod o waith y coleg ac yn ddigon hael i roi eu hamser a’u harbenigedd. Cyfnod swydd yr aelodau yw 4 blynedd, ac eithrio myfyrwyr sy’n cael eu penodi yn y swydd am flwyddyn.

Tim-Wheeler-330x450

Yr Athro Tim Wheeler
Aelod Busnes a Cadeirydd y Corff Llywodraethu

Penodwyd Tim yn Is-Ganghellor Prifysgol Caer yn 2005 ac fe ymddeolodd yn 2020. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn ystod ei yrfa mae wedi cael swyddi mewn prifysgolion yn Lloegr, Iwerddon a’r Alban a bu am gyfnod yn Uwch Ymwelydd Ysgolor Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen.

Mae llawer o’i waith wedi ymwneud ag ymgynghoriaethau academaidd a diwydiannol, yn ogystal â phrofiad yn Ewrop, America, Tsieina ac Awstralia. Mae wedi cyhoeddi dros 120 o erthyglau, llyfrau ac adroddiadau ymchwil mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys seicoffarmacoleg, dyslecsia, cyfathrebu a diogelwch.

Mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol a chorfforaeth addysg bellach am dros 30 mlynedd. Mae’n Ddirprwy Raglaw Swydd Gaer ac mae’n cymryd rhan weithredol yn Eglwys Gadeiriol Caer fel Canon Lleyg. Mae’n rhyddfreiniwr Dinasoedd Llundain a Chaer. Cafodd swydd fel Cadeirydd y Bwrdd ym mis Ionawr 2021.

Dysgu rhagor
Marjorie-Thomson-330x450

Marjorie Thomson Aelod o'r Gymuned a Is-Gadeirydd y Corff Llywodraethol

Mae Marjorie yn aelod o nifer o bwyllgorau’r bwrdd yn aelod o bwyllgorau eraill y bwrdd. Mae hi hefyd yn cynorthwyo’r Coleg gyda’i swydd fel Llywodraethwr Cyswllt.

Mae Marjorie wedi gweithio ym maes addysg ers 35 mlynedd a rhagor. Dechreuodd fel athrawes ysgol gynradd, yna fel Prifathrawes ac yn ddiweddarach fel tiwtor cysylltiol/tiwtor cyswllt ar gyfer Prifysgol Caer a Phrifysgol Cumbria.

Mae Marjorie wedi adeiladu a chynnal perthynas gref gyda’i chymuned dros nifer o flynyddoedd. Mae’n Gynghorydd Cymuned dros Gwernymynydd ac yn eu cynrychioli ar bwyllgor Un Llais Cymru Sir y Fflint. Bellach mae’n cynrychioli Sir y Fflint ar Gorff Gweithredol Cenedlaethol Un Llais Cymru lle mae’n Is Gadeirydd.

Yn ogystal, mae hi’n Gadeirydd pwyllgor Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae hi’n un o ymddiriedolwyr Home-Start Sir y Fflint a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor Sir y Fflint ar gyfer y Bartneriaeth Datblygu Wledig. Yn flaenorol bu’n gweithredu fel Ymgynghorydd Cyffredinol Cyngor ar Bopeth, Sir y Fflint.

Dysgu rhagor
YanaWilliams

Yana Williams
Prif Weithredwr

Daeth Yana Williams yn Brif Weithredwr Coleg Cambria ym mis Ionawr 2020. Cafodd ei haddysg mewn ysgol gynradd ac uwchradd yn yr Wyddgrug, a chwblhaodd ei hastudiaethau Safon Uwch yn hen Goleg Glannau Dyfrdwy.

Mae hi’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a cafodd ei swydd addysgu gyntaf yng Ngholeg Cymunedol Knowsley, yn Lerpwl. Yn ddiweddarach, symudodd i Goleg Runshaw yn Swydd Gaerhirfryn, cyn ail-ymuno â Choleg Glannau Dyfrdwy mewn swydd reoli, gan oruchwylio’r cwricwlwm mewn amrywiaeth eang o feysydd, o waith adeiladu i’r maes arlwyo.

Yna, aeth ymlaen i swydd Is-bennaeth yng Ngholeg Blackburn a Choleg Hugh Baird, Lerpwl ar ôl hynny, lle bu’n Brif Weithredwr/Bennaeth am 8 mlynedd.

Dysgu rhagor
M-Davies

Martina Davies
Llywodraethwr

Mae Martina wedi bod yn ymwneud â’r sector Addysg mewn sawl swydd ers 2014 pan ddaeth yn Llywodraethwr mewn ysgol gynradd yn Sir y Fflint ac ar hyn o bryd mae’n dal swydd yr Is-gadeirydd.

Bu hefyd yn aelod o Banel Apeliadau Ysgol Gwasanaethau Addysg Wrecsam am bum mlynedd ac wedi cymryd rhan mewn Apeliadau Ysgolion a Gwahardd yn Wrecsam, Sir y Fflint a Gorllewin Swydd Gaer. Daeth Martina yn Arolygydd Lleyg i Estyn yn 2018 ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o arolygiadau.

Cafodd Martina ei geni a’i magu yn yr Almaen a graddiodd o Brifysgol Cologne gyda gradd mewn Saesneg a Ffrangeg. Bu’n gweithio fel cyfieithydd i Fyddin Prydain ar y Rhein cyn treulio blwyddyn yn Kampala / Uganda fel gweinyddwr prosiect gyda’r GTZ (Cymorth yr Almaen). Ar ôl iddi symud i’r DU, bu’n gweithio ym maes hedfan fel tiwtor iaith ac aelod o griw caban tan yn ddiweddar iawn.

Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer cymhwyster addysgu CELTA yng Ngholeg Blackburn gyda’r bwriad o raddio ym mis Gorffennaf eleni.

Mae Martina yn briod gyda dau o blant, ac aeth un ohonynt 6ed Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn hyrwyddo addysgu Ieithoedd Tramor Modern ac yn dymuno manteisio ar ei phrofiad hi yn y maes hwnnw.

Dysgu rhagor
Roger Dutton

Ei Anrhyedd
Roger Dutton DL

Penodwyd y Barnwr Dutton yn Farnwr Preswyl ac Uwch yn Llys y Goron Gaer yn 2016 a daeth hefyd yn Gofiadur Anrhydeddus Dinas Caer. Yn 2010 fe’i penodwyd yn Ganghellor a Barnwr Llys y Consistori ar gyfer Esgobaeth Llanelwy. Ar ôl 44 mlynedd ym myd y gyfraith, ymddeolodd yn 2018 ac yn 2019 dyfarnwyd Doethuriaeth Er Anrhydedd yn y Gyfraith iddo gan Brifysgol Caer mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i weinyddu cyfiawnder yn Swydd Gaer a gogledd orllewin Lloegr.

Cafodd ei eni a’i fagu yn Wrecsam a’i addysgu yn Ysgol Gynradd Parc Acton ac Ysgol Ramadeg Grove Park. Graddiodd o Brifysgol Caint gyda BA (Anrh) yn y Gyfraith. Bu’n gweithio’n lleol fel bargyfreithiwr tan 1996 pan gafodd ei benodi’n un o Farnwyr Cylchdaith Ei Mawrhydi ar Gylchdaith Cymru a Chaer. Yn 44 mlwydd oed, Roger oedd y barnwr ieuengaf i gael ei benodi i’r Fainc Cylchdaith.

Ymhlith ei rolau niferus eraill, mae wedi gwasanaethu ei gymuned yn frwdfrydig dros y blynyddoedd. Mae’r Barnwr Dutton wedi bod yn Rotariad, yn un o lywodraethwr Prifysgol Glyndŵr, yn warden eglwys yn Yr Orsedd, ac yn Llywydd Cyngor Barnwyr Cylchdaith Ei Mawrhydi. Yn 2019 daeth yn gadeirydd Grŵp Cynghori Diogelu Eglwys Gadeiriol Caer.

Pan oedd yn iau roedd yn hoff o chwaraeon amrywiol ond erbyn hyn mae’n cyfyngu ei hun i glwb golff yn Wrecsam lle bu’n aelod ers dros 40 mlynedd. Mae’n ddilynwr brwd o Rygbi Cymru, criced, a hynt a helynt Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Dysgu rhagor

LEE GOULD
LLYWODRAETHWR

Mae gan Lee dros 36 mlynedd o brofiad yn y Diwydiant Cyllid gyda dau gwmni yswiriant mawr a chwmni preifat fel Cyfarwyddwr a pherchennog Williams Financial Planning Ltd yn Wrecsam. Yn 2006 daeth Lee yn Gynllunydd Ariannol Siartredig cyntaf Wrecsam ac mae’n parhau i ddarparu cyngor arbenigol i unigolion, busnesau ac elusennau.

Gwnaeth Lee raddio o Brifysgol Cymru, mae’n briod ac mae ganddo 3 o blant. Gwnaeth 2 o blant Lee gynnydd trwy addysg bellach yng Nglannau Dyfrdwy a Gorllewin Swydd Gaer ar eu ffordd i’r gweithle a’u gyrfaoedd eu hunain.

Roedd Lee yn fabolgampwr ymroddedig pan oedd yn iau ac mae’n parhau i fod yn feiciwr brwd ac yn gefnogwr ffyddlon i Aston Villa. Angerdd arall Lee yw cerddoriaeth ac mae’n mwynhau chwarae mewn band R&B lleol.

Dysgu Rhagor
M-Evans

Martin Evans
Aelod Busnes

Martin yw Pennaeth yr Academi Ddiwydiannol ar gyfer Airbus ac mae wedi’i leoli ym Mrychdyn, Gogledd Cymru. Yn flaenorol mae Martin wedi gweithio mewn swyddi uwch ym maes Ansawdd, Peirianneg gweithgynhyrchu a Rheoli/Gwella Perfformiad, ac mae wedi gweithio yn y sector awyrofod am dros 30 mlynedd ledled Ewrop a’r UD.

Mae Martin yn aelod brwd o’r Grŵp Gweithio Gweithgynhyrchu yn y ‘Bartneriaeth Twf Awyrofod’, yn Llysgennad ‘Awyrofod Cymru’, ac yn Llywodraethwr lleol yn Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle.

Yn ei amser hamdden, mae Martin yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, beicio a gwylio chwaraeon, yn enwedig ei glwb pêl-droed lleol, CPD Wrecsam.

Martin yw’r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Dysgu yn y Gwaith ac Ymgysylltu â Chyflogwyr.

Dysgu rhagor
Mark Hughes

Mark Hughes
Llywodraethwr Staff Cymorth Busnes

Mark Hughes ydy Swyddog Ymgysylltu Llais Myfyrwyr yn yr adran Profiadau Dysgwyr.

Ar hyn o bryd, mae’n cydlynu Llais Myfyrwyr, clybiau a chymdeithasau 5 safle Coleg Cambria.

Mae gan Mark hanes hir o weithio gyda myfyrwyr o bob oedran. O weithio mewn ysgolion uwchradd i weithio fel Anogwr Cynnydd yng Ngholeg Cambria, mae Mark wedi gallu gweithio gydag amrywiaeth o fyfyrwyr gydag anghenion gwahanol ac mae wedi bod wrth ei fodd yn gweld pob myfyriwr yn datblygu a symud ymlaen i bethau gwell.

Mae Mark wir yn credu y dylai pob myfyriwr gael y cyfle i ddweud eu dweud. I ddweud yr hyn maen nhw’n ei gredu ynddo a dweud eu barn am sut mae’r coleg yn cael ei redeg. Ei nod yw sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y coleg.

 

Dysgu rhagor
Gareth Jones

Gareth Jones
Llywodraethwr

Mae Gareth yn Gymrawd y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol ac yn gyn-gadeirydd Panel Cymru CARAS (Cyngor Gwobrau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol) a bu’n Gadeirydd Rhanbarth Cymru Sefydliad Moredun. 

Daw Gareth yn wreiddiol o Gaernarfon ac astudiodd Amaethyddiaeth yng Ngholeg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth, lle enillodd HND mewn Amaethyddiaeth. Ar ôl cyfnod yn godro gwartheg yn Seland Newydd, treuliodd amser yn rheoli ffermydd cig eidion, defaid a thir âr yng Nghanolbarth Cymru, ac yna bu’n gweithio am ddwy flynedd fel arbenigwr cig eidion i’r Comisiwn Cig a Da Byw.

Mae Gareth wedi ymddeol yn ddiweddar, ond mi roedd yn cael ei gyflogi gan yr Arglwydd Newborough fel Rheolwr Fferm Rhug yng Nghorwen. Cafodd y fferm ei drosi i gynhyrchiad organig yn 2000 ac mae ganddi safle torri cig ar y fferm, ynghyd â siop fferm a safle gyrru trwodd. Mae’r gweithrediad ffermio y mae’n ei reoli bellach yn estyn dros 6,000 erw.

Dysgu rhagor
Jill Jones

Jill Jones
Llywodraethwr

Mae Jill yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a risg.  Mae’n aelod profiadol o fyrddau, arweinydd busnes a chynghorydd, yn gweithredu yn anweithredol ar gyfer ystod amrywiol o sefydliadau.

Mae hi’n Gyfrifydd Siartredig, ac mae ganddi lawer o gysylltiadau ac mae’n uchel ei pharch yn y gymuned fusnes. Hyd at 2020, hi oedd Partner Rheoli Rhanbarthol RSM, y 7fed cwmni cyfrifwyr mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac aelod o Dîm Arweinyddiaeth Cenedlaethol y cwmni, Prif Gyfarwyddwr y Bwrdd a Phrif Swyddog Gweithredol Dros Dro.

Dysgu rhagor
Geoff Lang

Geoff Lang
Aelod Busnes

Ganed Geoff yn Wrecsam ac mae wedi byw yno gydol ei oes. Mae’n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Chweched Dosbarth Iâl, lle bu’n astudio Lefel A cyn ymuno â’r GIG i hyfforddi mewn cyfrifeg. Mae wedi bod yn Gyfrifydd Siartredig cymwys (CIPFA) ers 1989.

Treuliodd Geoff ei holl yrfa yn gweithio i sefydliadau GIG ar draws Gogledd Cymru gan ddal nifer o swyddi Cyfarwyddwr Gweithredol gan gynnwys mewn cyllid a rheolaeth gyffredinol. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad fel Aelod Bwrdd.

Dysgu rhagor
Jayne Moore

Jayne Moore
Aelod Busnes

Mae Jayne yn Fargyfreithwraig yn y Gyfraith ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn aelod o Gray’s Inn, Llundain.

Astudiodd y Gyfraith yn Lerpwl ac yn dilyn canmoliaeth yn ei Chwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith, dechreuodd ei gyrfa gyfreithiol o 25 mlynedd yn gweithio gwaith achos eang iawn i Gyfreithwyr Allington Hughes. Dilynodd Jayne ei hangerdd a heddiw mae’n arbenigo mewn gwaith troseddau yn un o ardaloedd erlyn mwyaf y DU yng Nglannau Mersi a Swydd Gaer.

Mae gan Jayne ddiddordeb brwd yn natblygiad eraill, yn gweithio fel disgybl-feistr, mentor ac mae wedi cynorthwyo i hyfforddi bargyfreithwyr newydd gymhwyso yn Gray’s Inn. Yn ddiweddar, ymddangosodd ar raglen ddogfen y BBC The Prosecutors yn ogystal â rhaglen newyddion BBC Gogledd Orllewin Lloegr yn trafod y pandemig diweddar a’r effeithiau ar y system cyfiawnder troseddol.

Ganwyd Jayne yn Wrecsam ac mae’n gyn-ddisgybl Coleg Chweched Dosbarth Iâl. Mae hi’n eiriolwr dros symudedd cymdeithasol, cyfleoedd cyfartal a chodi’r dyheadau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae Jayne yn byw yn Wrecsam gyda’i gŵr a’i dau o blant.

Dysgu rhagor

PAUL FFOULKES
LLYWODRAETHWR

Mae gan Paul dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyllid gyda Barclays Bank PLC.

Ar ôl cwblhau amrywiaeth o rolau, am y 30 mlynedd diwethaf mae Paul wedi bod yn rheolwr benthyca yn gweithredu fel cyfarwyddwr perthynas yn adran gorfforaethol y Banc yn delio ag amrywiaeth o gleientiaid yn y farchnad BBaChau.

Mae Paul yn wreiddiol o Wrecsam ac yn dal i fyw yn y ddinas. Mae’n gyn-ddisgybl o goleg chweched dosbarth Iâl.

Mae wedi dal sawl rôl Llywodraethwr mewn ysgolion lleol ar lefel Cynradd ac Uwchradd, yn gyn-aelod o fwrdd Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin ac mae’n fentor Ymddiriedolaeth y Tywysog sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n dechrau busnes.

Mae Paul yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Wrecsam ers 1976 ac mae wedi bod yn frwd dros godi arian i elusennau dros yr 20 mlynedd diwethaf ar ôl cwblhau sawl her seiclo a merlota gan gynnwys Kilimanjaro yn 2022.

Dysgu Rhagor
Anna Sutton

Anna Sutton
Llywodraethwr

Ymddeolodd Anna o’i rôl fel Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caer ddiwedd mis Medi yn 2020 a bu’n gweithio ym myd addysg am 47 mlynedd.

Mae Anna wedi cael gyrfa amrywiol, gan dreulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn maes addysg uwch. Hyfforddodd fel athrawes yng Ngholeg y Santes Fair, Bangor gan gymhwyso yn 1973, ac am ddeng mlynedd gyntaf ei gyrfa bu’n dysgu mewn ysgolion cynradd yn Sir y Fflint/Clwyd. Penllanw’r cyfnod hwn i Anna oedd cael ei phenodi’n Bennaeth Ysgol Fabanod Llanelwy.

Aeth Anna ymlaen i ymgymryd â swydd yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI), fel yr oedd bryd hynny, ym maes addysg athrawon. Arhosodd yn NEWI am ddeunaw mlynedd. Yn ystod y blynyddoedd hyn, aeth ymlaen i arwain addysg athrawon cynradd fel Prif Ddarlithydd.

Yn 2002, symudodd Anna i ymgymryd â swydd ym Mhrifysgol Caer. Daeth yn Ddeon y Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Plant cyn gadael y swydd honno ar ôl pymtheng mlynedd i ymgymryd â swydd y Dirprwy Is-ganghellor. Daeth hefyd yn Brofost Canolfan newydd Prifysgol Amwythig. Bu’n gweithio dramor ym Mhalestina, America a Sweden.

Mae Anna wedi gweithio gydag Estyn ac mae ganddi brofiad sylweddol fel arholwr allanol rhaglenni Addysg Uwch. Ni fu pall ar ei diddordeb mewn ysgolion, yn anad dim yn sgil ei phrofiad fel Llywodraethwr ysgol.

Dysgu rhagor
Jane Tweedie

Jane Tweedie
Aelod Cyfetholedig ar Bwyllgor Archwilio a Risg

Mae Jane yn gyfrifydd siartredig sydd wedi arbenigo mewn addysg ac elusen ers dros 25 mlynedd gan ganolbwyntio’n llwyr ar gynghori cleientiaid yn y sectorau hyn. Yn ystod y cyfnod hwn mae hi wedi gweithio gyda nifer o golegau Addysg Bellach Cymru, ymddiriedolaethau academi ac ysgolion annibynnol ynghyd ag amrywiaeth o elusennau a sefydliadau dielw eraill. Ar hyn o bryd mae hi’n uwch reolwr yn y tîm Elusen ac Addysg yn WR Partners, cwmni cyfrifeg lleol.

Mae Jane yn byw yn Wrecsam ac yn gyn-ddisgybl o cyn-goleg 6ed Dosbarth Iâl. Mae’n briod ac mae ganddi bedwar o blant, a mynychodd tri ohonynt Goleg Cambria cyn symud ymlaen i’r Brifysgol.

Yn ei hamser hamdden mae Jane yn mwynhau cerdded ei chwn, cefnogi Clwb Pêl-droed  Wrecsam ac ar hyn o bryd mae’n dysgu sut i chwarae golff.

Dysgu rhagor

Sara Barker
Llywodraethwr

Mae Sara yn Ddarlithydd Sgiliau Sylfaen ac Arweinydd Cwricwlwm yn yr adran Addysg Sylfaen i Oedolion. Cafodd ei haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at y Brifysgol lle y gwnaeth hi ymgymryd â gradd israddedig mewn Addysg ac ADY, ei chymhwyster addysgu a gradd Meistr.

Mae hi’n gweithio ar safleoedd y coleg ac yn y gymuned gydag oedolion sydd eisiau gwella eu sgiliau llythrennedd, digidol a TG. 

Mae gan Sara hanes hir o weithio gyda myfyrwyr mewn amrywiaeth o sectorau. O weithio mewn ysgolion cynradd i HMP Berwyn, carchar categori C i ddynion yn Wrecsam. Mae hi’n ymwybodol o bwysigrwydd darparu unigolion gyda’r offer a’r adnoddau cywir i ddatblygu, llwyddo a dod yn ddysgwyr hyd oes.

Fel llywodraethwr staff, mae Sara yn cynorthwyo’r coleg i fod yn amgylchedd gwaith cynhwysol, tryloyw a chadarnhaol wrth gyfrannu safbwynt darlithydd i Gorff Llywodraethol Coleg Cambria.

Dysgu rhagor
Annesley Wright

Annesley Wright
​​Aelod Busnes

Annesley yw Cadeirydd un o bwyllgorau’r Bwrdd Llywodraethol sef Pwyllgor Cyllid, Pobl a Diwylliant ac mae’n Llywodraethwr Cyswllt â Gwasanaethau Masnachol y Coleg.

Mae prif yrfa Annesley wedi bod fel rheolwr gyfarwyddwr cwmnïau gweithgynhyrchu Siapanaeg yng Ngogledd Cymru gan ddechrau gyda Hoya Lens yn Wrecsam ac yn ddiweddarach gyda TRB, is-gwmni gweithgynhyrchu Toyota, yn Llanelwy. Mae ganddo gefndir mewn cyllid a chyfrifeg, a datblygodd hyn i faes rheoli cyffredinol lle cafodd enw da am lwyddiant wrth reoli newid a chwmnïau sy’n tyfu.

Mae Annesley yn siaradwr Siapanaeg rhugl ac fe’i anrhydeddwyd gan Lywodraeth Siapan yn 2008 am ei wasanaeth i gorfforaethau Siapaneaidd a’r gymuned Siapan yn y DU. Ym 1998, enillodd wobr Person Busnes y Flwyddyn Cyflawniad Cymru, ac yn 2006, gwobr Person Busnes y Flwyddyn a noddwyd gan Brifysgol Bangor – y ddwy wobr mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae’n dal penodiadau Bwrdd Llywodraeth Cymru yng Ngyrfa Cymru, Parth Menter Glannau Dyfrdwy ac, yn lleol, gyda Gofal Iechyd Cefndy. Mae hefyd yn dal apwyntiadau bwrdd ym Mhrifysgol Caer ar Gyngor Cynghori Busnes, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Materion Mabwysiadu, Advance Brighter Futures, Foyer Wrecsam ac Academi Q3 ac mae’n ymddiriedolwr i nifer o ymddiriedolaethau elusennol.

 

Dysgu rhagor

Dr Rajan Madhok
Llywodraethwr

Meddyg ym maes iechyd cyhoeddus yw Rajan a fu’n gweithio mewn swyddi rheoli meddygol uwch yn y GIG nes iddo ymddeol. Mae’n gwasanaethu fel ymddiriedolwr i nifer o sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru ac fel cyfarwyddwr anweithredol ar Fyrddau Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Cilgwri (Lloegr) a Chorff Llais y Dinesydd (Cymru).

Mae’n byw ger Rhuthun yn Sir Ddinbych ac yn mynd ati i ddysgu Cymraeg.

Dysgu Rhagor
Student Governor Abi Farrugia

Abigail Farrugia
Llywodraethwr Myfyriwr

Mae Abi ar hyn o bryd yn astudio Lefel A mewn Addysg Gorfforol, Seicoleg a Chymdeithaseg yn 6ed Glannau Dyfrdwy ac mae’n un o Lywodraethwyr Myfyrwyr y Coleg.

Mae ei diddordebau’n ymwneud yn bennaf â chwaraeon fel Pêl-rwyd ac y mae hi wedi’u chwarae ers yn 7 oed. Nod Abi yw astudio Gwyddorau Chwaraeon yn y brifysgol a dod yn athrawes yn ddiweddarach.

Mae gan Abi ddiddordeb mewn gwrando ar sylwadau eraill ac mae’n hyderus i ddatgan ei barn ac i rannu ei sylwadau fel myfyriwr yng Ngholeg Cambria.

Dysgu Rhagor

Finn Jones
Llywodraethwr Myfyriwr

Ar hyn o bryd mae Finn yn astudio Rheolaeth Anifeiliaid ar Lefel 3 ar ôl astudio Gofal Anifeiliaid Lefel 1 a Lefel 2 (a chael ei addysgu gartref cyn hynny). Mae wedi bod yn rhan o raglen Llais y Myfyrwyr ar y Coleg ers dechrau yng Ngholeg Cambria ym mis Medi 2021. Mae Finn yn un o Lywodraethwyr Myfyrwyr ar y Bwrdd.

 

Mae Finn yn angerddol am wneud yn siŵr bod yr anifeiliaid ar ei gwrs yn cael gofal priodol a’u cynnal hyd eithaf gallu’r coleg. Mae hefyd yn awyddus i sicrhau bod y coleg yn parhau i fod yn gynhwysol a’i fod ef a’i gyfoedion yn parhau i fwynhau, ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy, eu cyrsiau.

Dysgu Rhagor

Claire Brook
Llywodraethwr

Mae Claire yn bartner yn Aaron and Partners, cwmni o gyfreithwyr. Wedi’i hargymell yn Legal 500 a Chambers & Partners, mae Claire yn cynrychioli ystod eang o gyflogwyr ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda chwmnïau gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol a CDPau, sefydliadau elusennol, a chleientiaid y sector addysg.

Mae ei hymarfer yn cynnwys cefnogi a chynghori Byrddau (gan gynnwys cyrff llywodraethu) a busnesau ar ystod eang o faterion cymhleth sy’n sensitif i amser.

Yn siaradwr cyhoeddus gweithgar sy’n ymroddedig i addysgu cyflogwyr a’u timau am arferion gorau, mae Claire wedi rhoi cyflwyniadau mewn digwyddiadau cenedlaethol gan gynnwys cynadleddau gweithio hyblyg a hybrid cenedlaethol diweddar ACAS, mae hi hefyd yn cynnal cyrsiau hyfforddi mewnol allanol a phwrpasol ar faterion cyfoes ym maes cyfraith cyflogaeth. 

Mae Claire yn arwain y tîm addysg ac yn gweithredu fel mentor a swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl yn Aaron and Partners ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, urddas yn y gwaith, lles yn y gwaith ac atal hunanladdiad.

Dysgu Rhagor
Image of Jayne Francis-Headon

Jayne Francis-Headon
Llywodraethwr Ymgynghorol - Partneriaeth Gymdeithasol

Ar ôl ymuno ag adran Cyfarwyddiaeth Dysgu yn y Gwaith (DyyG) yng Nholeg Cambria i ddysgu NVQ a Phrentisiaethau ar lefel uwch, mae Jayne yn ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Coleg Cambria. Mae Jayne yn dysgu cyrsiau lefel uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, yn Arweinydd Rhaglen Gradd Rheolaeth Busnes Cymhwysol a gyflwynir trwy bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe, ac mae hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni arweinyddiaeth a rheolaeth.

Yn Uwch Gynrychiolydd Partneriaeth Gymdeithasol dros Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, mae Jayne yn gweithio’n agos gyda’r adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y coleg; hi yw ysgrifennydd cangen undeb UCU.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Jayne ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer MSc/PhD mewn Rheolaeth Uwch gyda Phrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar Arloesi a Thrawsnewid.

Gyda chefndir hirsefydlog yn y sectorau AB a DyyG, yn flaenorol roedd Jayne yn y fyddin. Y tu allan i’w gwaith ac astudiaethau, mae Jayne yn mwynhau amrywiaeth o phrosiectau creadigol o adfer carafanau, celf, gwaith coed i ddylunio a datblygu gêm fwrdd!

Dysgu Rhagor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost