Mae Chweched Glannau Dyfrdwy, a wnaeth agor yn 2016 yn lle cyfeillgar a bywiog, sy’n cynnig llyfrgell ragorol a chyfleusterau TG blaengar sy’n cefnogi astudio ac ymchwil annibynnol.
Gall pob myfyriwr ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf gyda’n cyfrifiaduron o’r radd flaenaf, yn ogystal â Chromebooks ym mhob ystafell addysgu.
Yn ogystal â’r pynciau Safon Uwch rydych chi’n eu dewis eich hun, byddwn yn eich cefnogi yn rhagor i gyflawni eich potensial trwy eich cofrestru ar y Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch y byddwch yn ei hastudio fel Safon Uwch ychwanegol ac a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ychwanegol.
Taith Rithwir 360°
Dyma eich cyfle i gymryd cip ar sut le yw’r safle cyn i chi ymweld neu cyn i chi ddechrau eich taith gyda ni, gallwch wneud hyn o gartref. Os oes gennych benset Rhithrealiti, gallwch weld y daith mewn Rhithrealiti.